Dewch i weld beth oedd yr athrawon a'r myfyrwyr yn ei feddwl am y profiad!
Myfyrwyr o Dawn House School ar daith o gwmpas y Parc Olympaidd yn y Triathlon Gyfathrebu!
22 Gor 2011
Cafodd wyth o fyfyrwyr o Dawn House School, Mansfield, daith gyffrous o gwmpas y Parc Olympaidd.
Trefnwyd yr ymweliad yn dilyn lansiad Triathlon Gyfathrebu genedlaethol gyntaf y DU ar gyfer ysgolion. Dewiswyd Dawn House School fel cydnabyddiaeth am ymgysylltiad yr ysgol â Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 fel aelod o rwydwaith Bydd Barod.
Y Triathlon Gyfathrebu, lansiwyd ym Mawrth 2011. Trwy’r rhaglen gwahoddwyd myfyrwyr o Dawn House School i ymweld â‘r Parc Olympaidd. Trefnodd yr ysgol gystadleuaeth i ddewis un disgybl o bob grŵp blwyddyn i fynd ar y daith. Bu i bron pob myfyriwr gymryd rhan yn y gystadleuaeth, a gofynwyd iddynt gwblhau’r frawddeg “Hoffwn fynd i ymweld â‘r Parc Olympaidd oherwydd…”
Dywedodd Angela Child, Pennaeth Dawn House School, “Bu i’r gystadleuaeth i ymweld â‘r Parc Olympaidd fel rhan o’r Triathlon Gyfathrebu, greu cyffro gwirioneddol drwy’r ysgol gyfan. Ychydig iawn o bobl sy’n cael cyfle i ymweld â‘r safle, felly roedd yn ddiwrnod arbennig iawn i’n staff a’n myfyrwyr. Cawsant ginio yn y man gwylio a chael llawer o wybodaeth am y Parc cyn y daith. Ymunodd yr holl fyfyrwyr yn y trafodaethau ar y daith ac roeddent yn awyddus i ofyn cwestiynau, a bu’n llwyddiant mawr i bawb oedd a wnelo â‘r ymweliad. Mae’r myfyrwyr yn cynllunio gwasanaeth i’r ysgol gyfan gyda lluniau am yr ymweliad. Yn sicr, mae’r daith wedi creu llawer o gyffro ac ymgysylltu yn yr ysgol ynglŷn â Gemau’r flwyddyn nesaf!”
Dywedodd un myfyriwr 16 oed “Bu i mi fwynhau’r daith fws oherwydd roeddech yn cael gweld popeth ac roedd y tywysydd yn ateb fy holl gwestiynau.” Dywedodd myfyriwr arall 14 oed “Dysgais lawer o bethau – fel bod y gwahanol chwaraeon yn cael eu cynnal mewn lleoliadau gwahanol ac nid mewn un yn unig.”
Mae ysgolion sy’n cymryd rhan yn y Triathlon Cyfathrebu yn cael eu hannog i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod erbyn 16 Rhagfyr.













