Mae Tîm Addysg Llundain 2012 yn rhoi chwe chyngor gorau i chi ar sut i wneud y mwyaf o Lundain 2012 wrth i ni baratoi ar gyfer y sioe fwyaf ar wyneb y Ddaear!
Cynlluniwch eich amser tan y Gemau!
27 Gor 2011
Sicrhewch bod eich ysgol neu goleg yn y safle gorau i gael y gorau o Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 – does ond blwyddyn i fynd!
Dyma’r chwe chyngor pwysicaf ar sut i gael y gorau o Gemau Llundain 2012 yn ystod y flwyddyn nesaf.
1. Ymunwch â rhwydwaith Bydd Barod a hawliwch eich tocynnau i’r Gemau.
Ymunwch â‘r rhwydwaith heddiw!
Daw’r cynnig i ben 16 Rhagfyr 2011*
2. ‘Bydd Barod am y Cymod Olympaidd’
Dysgwch am y Cymod Olympaidd a hyrwyddwch heddwch trwy chwaraeon.
Daw rhagor o wybodaeth ym mis Medi…
3. Prynwch docynnau i’r Gemau Paralympaidd
Edrychwch am ragor o wybodaeth ym mis Medi. . .
4. Byddwch yn gefnogwr
Dewiswch y timau Olympaidd a Pharalympaidd gefnogir gan eich ysgol a dysgwch amdanynt.
Yn dod yn fuan yn yr hydref…
5. Croesawu Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd
Daw i gymuned agos atoch chi!
Rhagor o wybodaeth ym mis Mai 2012…
6. Cadwch y dyddiad – dydd Llun 25 Mehefin 2012 yw Diwrnod Chwaraeon Rhyngwladol Llundain 2012, a gyflwynir gan Lloyds TSB.
Eich cyfle i ddathlu dyfodiad y byd i’r DU ar gyfer y gwyliau chwaraeon mwyaf un.
Ewch ar www.london2012.com/getset am ragor o wybodaeth
Bydd yn flwyddyn gyffrous – ymunwch â ni ar y daith!
Dymuniadau gorau
Tîm Addysg Llundain 2012













