• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Myfyrwyr y Coleg Celf Brenhinol i ddylunio elfennau allweddol o Seremonïau Dathlu Llundain 2012.
27 Ion 2011

Mae LOCOG, Pwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd wedi cyhoeddi partneriaeth gyda’r Coleg Celf Brenhinol (RCA), fydd yn golygu y bydd myfyrwyr ôl-raddedig RCA yn dylunio elfennau allweddol o Seremonïau Dathlu Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.

Yn 2012 bydd mwy na 770 o Seremonïau Dathlu yn cael eu cynnal mewn 29 o wahanol leoliadau ar draws y DU, fydd yn cael eu gwylio gan filoedd o wylwyr mewn lleoliadau a chynulleidfa deledu byd-eang.

Mae LOCOG yn gweithio gyda myfyrwyr RCA ar ddylunio elfennau allweddol yn cynnwys y podia fydd athletwyr Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 yn derbyn eu medalau arnynt, gwisgoedd, dalwyr blodau a hambyrddau fydd yn cario’r medalau a’r blodau. Bydd tua 250 o hambyrddau a 6,000 o ddalwyr blodau yn cael eu defnyddio yn y Seremonïau Dathlu.

Bydd myfyrwyr yn cydweithio â chynhyrchwyr diwydiannol ar bob elfen er mwyn gwireddu eu dyluniadau, ac yn gweithio yn ystod y Gemau gyda staff allweddol Seremonïau Dathlu Llundain 2012 i weld eu dyluniadau yn cael eu defnyddio.

Yna, bydd Cyflenwr Gwisgoedd a Chelfi Swyddogol Llundain 2012 yn gweithio gyda myfyrwyr RCA ar eu dyluniadau i greu’r holl wisgoedd ar gyfer y Seremonïau Dathlu, yn cynwys gwisgoedd ar gyfer Hebryngwyr Cyflwynwyr, Hebryngwyr Athletwyr a Chludwyr Medalau a Blodau.

Dywedodd Paul Deighton, Prif Weithredwr LOCOG: ‘Rydym wrth ein bodd yn cael gweithio gydag un o ysgolion celf a dylunio ôl-radd gorau yn y byd er mwyn galluogi’r myfyrwyr yma i afael yn y cyfle unwaith-mewn-oes hwn. Rydym yn edrych ymlaen at weld eu cynigion, ac yna at eu gweld yn gweithio â phobl broffesiynnol yn y diwydiant er mwyn gwireddu eu dyluniadau fydd yn cael eu gweld gan gynulleidfa fyd-eang yn y sioe orau ar y ddaear.’