Myfyrwyr o ysgolion sy'n aelodau o rwydwaith Bydd Barod yn dangos eu gwaith gerbron Olympiad!
Jonathan Edwards yn ymweld â Brighton.
15 Ion 2011
Bu’r Enillydd Medal Aur ac Aelod o Fwrdd LOCOG, Jonathan Edwards, ar ymweliad arbennig â Brighton i ddathlu ei llwyddiannau parhaus o ran mentrau sy’n gysyllltiedig â Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.
Bu myfyrwyr o Coombe Road Primary School yn ddigon lwcus i gyfarfod â‘r Olympiad a gyflwynodd blac rhwydwaith Bydd Barod i’r ysgol. Coombe Road Primary School yw’r ysgol gynradd gyntaf yn Brighton a Hove i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod.
Yn ystod yr ymweliad, cafodd Jonathan hefyd gyfarfod â myfyrwyr o Uckfield Community Technology College sydd hefyd yn aelod o rwydwaith Bydd Barod. Cynhaliodd y coleg Ŵyl Olympaidd oedd yn cynnwys Seremonïau agor a chloi, gemau a chystadlaethau.
Dywedodd Jonathan: Roedd yn hyfryd ymweld â Brighton a Hove heddiw i ddathlu llwyddiant ei mentrau 2012 hyd yma, ac i weld eu gwaith â fy llygaid fy hun. Rydym eisiau cymaint o bobl ifanc â phosibl i fod yn ymwneud â Llundain 2012, ac mae cynnal yr holl brosiectau hyn yn dangos bod De Ddwyrain Lloegr yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd gaiff eu creu gan y Gemau.
Dywedodd Pauline Freestone, Cydlynydd 2012 ar Gyngor Brighton a Hove: Roedd yn fraint cael Jonathan yn ymweld â Brighton a Hove, i ddathlu llwyddiant ein llwyddiannau eang ar lefel leol. Roedd y plant ysgol ifanc wrth eu bodd yn gallu dangos i Jonathan beth oedd cynnwys eu rhaglenni addysg Llundain 2012, a chafodd y graddedigion Gorau Glas eu hysbrydoli gan lwyddiannau chwaraeon anhygoel Jonathan.
Rydym yn gobeithio y bydd yr ymweliad hwn gan rywun mor ysbrydoledig ac ysgogol â Jonathan yn gwneud ein gwaith ynglŷn â‘r Gemau Olympaidd yn fwy gweledol i’r cyhoedd, ac yn codi proffil rhaglen 2012 yn lleol.













