• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Ysgol y mis rhwydwaith Bydd Barod Chwefror 2011!
23 Chw 2011

Llongyfrachiadau i St Mary’s Grammar School yng Ngogledd Iwerddon!

Mae’r ysgol wedi bod yn defnyddio’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd fel arf i ddathlu amrywiaeth a chyfeillgarwch.

Yma yn St Mary’s Grammar School, rydym wedi ffurfio grŵp Olympaidd blaengar ac wedi cychwyn ar daith fydd yn diweddu ag ymweliad â‘r Gemau yn 2012. Mae myfyrwyr wedi cyfarfod â chyn athletwyr Olympaidd, dylunio crysau T, cymryd rhan mewn sesiynau blasu chwaraeon Olympaidd. Mae’r grŵp Olympaidd hefyd wedi bod ar daith preswyl tridiau i archwilio testunau gwahaniaethu, rhagfarn ac amrywiaeth gan ddefnyddio’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Bu’r myfyrwyr yn canolbwyntio ar destunau oedran, rhyw, hil, anabledd a chrefydd. Mae St Mary’s Grammar School yn amcanu at adael gwaddol barhaus i’w myfyrwyr yn seiliedig ar y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.

Cafodd yr ysgol ei dewis o ganlyniad i’w postiau blog rhagorol oedd yn arddangos eu murlun a ysbrydolwyd gan y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Bydd yr ysgol yn derbyn ymweliad gan athletwr fel gwobr am eu hymdrechion a llythyr o longyfarchiadau gan Seb Coe.

Os hoffech fod â gobaith o gael eich dewis fel ‘ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod’ ond nad ydych eto yn aelod o Rwydwaith Bydd Barod, yna gwnewch gais heddiw a dechrau blogio!

Gwnewch gais nawr!