• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Pŵer y Gemau i droi pobl ifanc yn Legacy Champions
11 Chw 2011

Mae deg o golegau Dwyrain Llundain wedi uno ag EDF Energy ac elusen ieuenctid Envision mewn partneriaeth tair blynedd sy’n amcanu at ddefnyddio ysbrydoliaeth Llundain 2012 i helpu i drawsnewid bywydau’r myfyrwyr sy’n byw o gwmpas y Parc Olympaidd.

Bydd Legacy Champions, sydd wedi derbyn ‘Nod Ysbrydoli’ Llundain 2012, yn gweld EDF Energy yn helpu i greu gwaddol gymunedol ac amgylcheddol ar gyfer y Gemau, gan weithio â phobl ifanc trwy gyfrwng rhaglen chwe mis ddwys gyda 90 o fentoriaid. Byddant yn gweithio ar brosiectau gwaddol ym mwrdeistrefi Llundain sy’n cynnal cystadlaethau yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.

Dywedodd Gareth Wynn, Cyfarwyddwr Grŵp EDF Rhaglen Llundain 2012: “Bydd Legacy Champions yn rhoi cyfle i gannoedd o bobl ifanc gael eu hysbrydoli gan Lundain 2012 i wneud pethau gwych, gan adeiladu eu hyder a’u sgiliau wrth iddynt weithio ar brosiectau lleol pwysig.”

“Fel y partner cynaliadwyedd cyntaf, mae EDF Energy yn ymrwymedig i helpu gyda materion amgylcheddol a chymdeithasol trwy weithredu a chael y gorau o bobl, sef yn union yr hyd y dyluniwyd Legacy Champions i’w wneud. Rydym yn wirioneddol yn mynd amdani – yn cynnig 90 o weithwyr fel mentoriaid i roi bywyd i’r her hon.”