Mae Pencampwriaeth Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) 2011 yn cynnig mynediad am ddim i ddisgyblion ysgol a chlybiau lleol!
Pencampwriaethau BUCS 2011!
4 Chw 2011
Mae pencampwriaethau BUCS yn un o’r digwyddiadau aml-chwaraeon mwyaf yn y DU ac yn un o’r digwyddiadau pwysicaf yng nghalendr chwaraeon myfyrwyr. Yn ystod y digwyddiad, bydd dros 4,000 o athletwyr sy’n fyfyrwyr yn cystadlu mewn 19 o wahanol gampau o brifysgolion ar hyd a lled y DU. Mae Sheffield yn ddinas gynnal am y pedwerydd tro ers i’r pencampwriaethau gychwyn.
Bydd y bencampwriaeth yn cael ei chynnal dros 7 diwrnod (14-20 Mawrth 2011) yn Sheffield a’r ardaloedd cyfagos mewn lleoliadau amrywiol megis Ponds Forge ISC, Climbing Works a’r English Institute of Sport yn Sheffield. Bydd y digwyddiad yn llwyfanu chwaraeon megis Badminton, Hoci, Pêl-rwyd a Lacrosse.
Mae Sheffield hefyd yn cynnal Rowndiau Terfynol Pencampwriaeth Pêl-droed BUCS ar 11 Mai 2011 yng Nghlwb Pêl-droed Bramall Lane.
Mae Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) yn cynnig cyfle i bob ysgol a chlybiau chwaraeon lleol i fynychu’r bencampwriaeth ac i weld y cyfleon chwaraeon sydd ar gael am ddim mewn addysg uwch!
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Gwener 18 Chwefror 2011.













