Dewch i ganfod pa ysgolion enillodd gystadleuaeth gynradd Bydd Barod i greu dy fasgot a chlywed y cyfan am y rownd derfynol.
Enillwyr cystadleuaeth gynradd Bydd Barod i greu dy fasgot!
8 Chw 2011
Bydd Wenlock a Mandeville yn gwneud diwrnod chwaraeon ysgol yn hynod arbennig i 11 o ysgolion cynradd yn y DU yr haf hwn fel gwobr am gymryd rhan yn ‘Bydd Barod i greu dy fasgot’.
Roedd ‘Bydd barod i greu dy fasgot’ yn gwahodd ysgolion cynradd i ymgymryd a phrosiect i ddysgu am eu hardal leol a newid Wenlock neu Mandeville i gynrychioli rhywbeth sy’n arbennig am eu cymuned.
Bu i gannoedd o ysgolion gystadlu a rhoddwyd 23 ar restr fer i dreulio diwrnod yn Llundain i fynychu’r rownd derfynol genedlaethol. Cafodd yr ysgolion hyn gyfle i weld y Parc Olympaidd a chyfarfod ag enillydd medal arian Olympaidd am Ddeifio, Leon Taylor, a’r Paralympiad Pêl-fasged Cadair Olwyn, Clare Strange, a oedd hefyd ar y panel beirniaid oedd yn dewis y prosiectau buddugol.
Yna dangosodd yr ysgolion eu sgiliau cyflwyno wrth gyflwyno eu dyluniadau masgotiaid i’r panel a’u rhannu â‘r ysgolion eraill. Yn dilyn hyn bu iddynt gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda’r panel ble buont yn siarad am sut y maent yn defnyddio’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd drwy’r ysgol gyfan.
Clare Strange, Paralympiad Pêl-fasged Cadair Olwyn: ‘Mae’r plant wedi gweithio mor galed ar eu dyluniadau. Mae hi mor gyffrous gweld pa mor angerddol y maent yn ei deimlo tuag at eu hardaloedd a’u cymunedau lleol a pha mor falch ydynt fod Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 yn digwydd yn y DU.’
Edrychwch ar y fideo hon i weld beth ddigwyddodd yn y rownd derfynol!
Cyhoeddwyd 11 o enillwyr – un o bob rhanbarth yn Lloegr, Yr Alban a Chymru ar ddiwedd y dydd.
A’r enillwyr yw…
De Orllewin Lloegr – Wadebridge, Cernyw
St Breock Primary School
Dywedodd disgyblion o St Breock Primary School: ‘Roeddem yn nerfus ac yn dawel hyderus ar yr un pryd. Ar ôl cyrraedd Llundain penderfynasom wneud ein gorau glas i weddill yn ysgol. Roeddem yn neidio gyda chyffro’r cyfle unwaith mewn oes hwn.’
De Ddwyrain Lloegr – Burnham, De Swydd Buckingham
Lent Rise Combined School
Dywedodd disgyblion o Lent Rise Combined School: ‘Hoffais wneud y cyflwyniad yn y rownd derfynol yn Llundain, er bod llawer o bobl yno a’i fod yn eithaf brawychus! Bydd ymweliad gan y masgot yn rhyfeddol oherwyddd bydd yn ein hannog i ymarfer mwy a gwneud ein gorau glas ar ddiwrnod chwaraeon.
Llundain – Southwark
St John’s Catholic Primary School
Dywedodd disgyblion o St John’s Catholic Primary School: ‘Roedd yn bleser dod o Stratford i ddangos ein prosiect. Roedd yn brofiad gwych ac roedd yn rhagorol ein bod wedi ennill oherwydd roedd bob ysgol mor dda ac yn haeddu ennilll! Hoffem ddiolch am bopeth ac rydym yn edrych ymlaen at ymweliad Wenlock â‘n hysgol.’
Gogledd Ddwyrain Lloegr – Cleveland, Guisborough
Highcliffe Primary School
Dywedodd disgyblion o Highcliffe Primary School: ‘Roeddem wrth ein bodd gyda’n diwrnod, roedd yn brofiad unwaith mewn oes – ar wahân i’r cychwyn mor gynnar yn y bore!’
Yr Alban – De Swydd Lanark, Glasgow
Fernhill Primary School
Dywedodd disgyblion o Fernhill Primary School: ‘Roeddem wedi cael mwynhad mawr o gyfarfod â Wenlock a Mandeville ac yna Clare Strange a Leon Taylor. Yn gyffredinol roedd yn brofiad gwych.’
Swydd Efrog – Sheffield
Emmaus Catholic and Church of England Primary School
Craig Malkin, Cydlynydd Chwaraeon Ysgol a Wendy McLaren, Athrawes Ddosbarth ac A.G. Dywedodd cydlynydd o Emmaus Catholic and Church of England Primary School: ‘Roedd yn brofiad emosiynol iawn gweld y plant ar y llwyfan yn dangos cymaint o frwdfrydedd tuag y Gemau Olympaidd a’u dinas eu hunain. Roedd y plant mor falch o’u llwyddiannau ar y diwrnod ac yn teimlo gymaint o gyffro ynglŷn ag un o’r masgotiaid yn ymweld ag Emmaus Primary School.’
Cymru – Wrecsam
Ysgol Gynradd Gwenfro
Dywedodd disgyblion o Ysgol Gynradd Gwenfro: ‘Cawsom ddiwrnod bendigedig ac roedd ennill yn sypreis gwych. Roedd gweld y Stadiwm Olympaidd yn cŵl – mae’n anferth.’
Dwyrain Canolbarth Lloegr – Chesterfield, Swydd Derby
Walton Holymoorside Primary School
Dywedodd disgyblion o Walton Holymoorside Primary School: ‘Roedd yn brofiad unwaith-mewn-oes gwych i bawb ohonom ac roeddem wrth ein boddau’n cael cyfarfod â‘r masgotiaid a’r athletwyr.’
Dwyrain Lloegr – Leigh-on-Sea, Essex
Heycroft Primary School
Dywedodd Lucy Easkin, Athrawes Gelf yn Heycroft Primary School: ‘Mae hwn wedi bod yn brofiad gwych i’r ysgol. Rydym yn falch iawn o’r ffordd y mae’r plant wedi gweithio gyda’i gilydd ac wedi cynnwys pawb yn yr ysgol.
Roedd y diwrnod yn Llundain yn arbennig iawn i bawb, a bydd yn un na fydd y plant fyth yn ei anghofio – cawsom ein trin fel VIPau! Rydym yn edrych ymlaen at ymweliad Wenlock fis Mehefin.’
Gogledd Orllewin Lloegr – Oldham
Coppice Primary School
Dywedodd disgyblion o Coppice Primary School: ‘Roedd cyfarfod â‘r athletwyr yn gymaint o ysbrydoliaeth i ni ac mae’r Stadiwm Olympaidd yn edrych yn wych. Roedd y diwrnod cyfan yn gyffrous ac yn brofiad unigryw i bawb,’
Gorllewin Canolbarth Lloegr – Coventry
Edgewick Primary School
Dywedodd disgyblion o Edgewick Primary School:













