• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Dadorchuddio Felodrom Llundain 2012!
22 Chw 2011

Defnyddiodd seiclwyr Prydeinig yn cynnwys Syr Chris Hoy a Jason Kenny y trac yn Felodrom Llundain 2012 am y tro cyntaf heddiw wrth i’r Olympic Delivery Authority (ODA) ddadorchuddio lleoliad cynta’r Parc Olympaidd i gael ei gwblhau, yn brydlon ac o fewn y gyllideb.

Y Felodrom, sy’n dal 6,000 o bobl, fydd yn cynnal y cystadlaethau seiclo trac Olympaidd a Pharalympaidd yn 2012. Ar ôl y Gemau, bydd y Felodrom yn cael ei defnyddio gan athletyr elît a’r gymuned leol a bydd yn cynnwys caffi a chyfleuserau llogi beiciau a gweithdy. Cychwynodd yr ODA y gwaith ar y Felodrom ym Mawrth 2009, a bellach mae’r gwaith ar ben a’r lleoliad cyntaf yn y Parc Olympaidd yn barod 18 mis cyn cychwyn y Gemau.

Cafodd seiclwyr dethol o Dîm Seiclo Prydain Fawr brofi’r Velodrom am y tro cyntaf heddiw, yn cynnwys enillwyr medalau gemau Beijing Syr Chris Hoy, Victoria Pendleton, Jason Kenny a Ross Edgar, ynghyd â darpar sêr ac enwau cyfarwydd yn nhîm seiclo GB. Wrth ddadorchuddio’r Felodrom, ymunwyd â‘r seiclwyr gan Gadeirydd yr ODA John Armitt, Seb Coe Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Llundain (LOCOG), Yr Ysgrifennydd Gwladol Jeremy Hunt, Maer Llundain Boris Johnson a gwesteion eraill.

Dywedodd Syr Chris Hoy, enillydd tair medal aur yng Ngemau Beijing a’r seiclwr Olympaidd gwrywaidd mwyaf llwyddiannus erioed: “Wedi bod yn ymwneud mewn ffordd fechan iawn gyda’r broses ddylunio yn y camau cyntaf, mae’n anhygoel gweld y Felodrom wedi ei chwblhau, ac mae gallu seiclo arno heddiw yn rhoi’r teimlad i mi o’r hyn mae’n debyg o fod mewn blwyddyn a hanner. Allla i ddim disgwyl!”

Dywedodd Maer Llundain, Boris Johnson: “Mae’r lleoliad mawreddog hwn yn glod i bawb fu’n rhan o’i ddylunio a’i adeiladu. Mae hi eisoes yn eicon ar gyfer Gemau Llundain, gyda’i do ysgubol a’i rhuban slic o drac, ac mae’r Felodrom yn barod i’n tîm seiclo di-guro chwalu recordiau yn haf 2012 ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd o raswyr i fentro ar feic. Does dim dwywaith mai’r Velodrom fydd yr hoff leoliad yn dilyn y Gemau, gan y gymuned ac ar gyfer cystadlaethau mawr rhyngwladol am flynyddoedd i ddod, fydd yn helpu i droi Llundain yn brifddinas seiclo’r byd.”

Ffeil ffeithiau’r Felodrom:

Cyfleusterau’r Felodrom:

  • Trac dan do 250m wedi ei gymeradwyo gan yr UCI (Undeb Seiclo Rhyngwladol)
  • 6,000 o seddi a chynulliad 360 gradd yn waddol ar gyfer gwylio pob gweithgaredd seiclo.

Gwaddol seiclo:

  • Ar ôl y Gemau, bydd cwrs seiclo ffordd a chwrs beicio mynydd yn cael eu hychwanegu at y Felodrom a chwrs BMX i greu’r Lee Valley VeloPark, fydd yn cyfuno cfleusterau seiclo ar draws pob disgyblaeth mewn un ‘both’ seiclo.

Yn ystod y Gemau:

  • Bydd 10 medal aur yn cael eu hennill yn Felodrom Llundain 2012, pump i ddynion a phump i ferched.
  • Bydd pum cystadleuaeth i ddynion a phump i ferched. Gwibio, Gwibio Tîm, Ceirin, Tîm Ymlid a’r Omnium.
  • Bydd 188 o seiclwyr yn cystadlu yn Llundain 2012.
  • Bydd y gystadleuaeth seiclo trac yn cael ei chynnal dros chwe diwrnod yn Llundain 2012.

Dyluniad y Felodrom:

  • To amlwg y felodrom wedi ei ddylunio i adlewyrchu geometreg gan ddefnyddio strwythur rhwyd wifrau crymedd dwbl ysgafn iawn
  • Rhennir y 6,000 o seddi i haen isaf a haen uchaf, sy’n caniatau lefel cynulliad 360 gradd rhwng rhuban barhaus o ffenestri uchder llawn.

Adeiladu:

  • Adeiladwyd y Felodrom dros gyfnod o 23 mis gyda hyd at 450 o weithwyr yn anterth y gwaith a 2,500 o weithwyr wedi bod yn rhan o’r prosiect yn ei gyfanrwydd
  • Cloddwyd tua 48,000 o fetrau ciwbig o ddeunyddiau i greu’r bowlen ar gyfer y Felodrom, digon i lenwi 19 o byllau nofio maint Olympaidd

Trac y Felodrom:

  • Dyluniwyd y Felodrom gyda’r amcan o greu trac seiclo cyflyma’r byd trwy deilwra geometreg y trac a gosod y tymheredd a’r amgylchiadau amgylcheddol yn y Felodrom i greu amgylchiadau ffafriol i dorri recordiau.
  • Mae’r Felodrom hefyd wedi cael ei ddylunio gydag eisteddleoedd o gwmpas y trac i gyd er mwyn creu’r awyrgylch gorau posibl yn ystod y cystadlaethau.

Elfennau cynaliadwyedd:

  • Dyluniwyd yr adeilad i fod yn ysgafn ac yn effeithlon i adlewyrchu dyluniad effeithlon beic
  • Mae defnyddio digonnedd o olau dydd trwy wydrau to sydd wedi eu gosod yn strategol yn lleihau’r angen am olau artiffisial, a cheir awyriad naturiol trwy agoriadau yng nghladin coed allanol y lleoliad.