• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Curwen primary school yn croesawu gwahoddedigion arbennig!
9 Chw 2011

Heddiw rhoddodd plant ysgol o Curwen Primary School groeso i Xavi Gonzalez, Prif Weithredwr Y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol (IPC).

Mae Curwen Primary School yn aelod o rwydwaith Bydd Barod, ac maent wedi bod yn dangos eu hymrwymiad i fyw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd mewn nifer o ffyrdd creadigol a dyfeisgar.

Fel rhan o’r ymweliad, cyfarfu Xavi Gonzalez â myfyrwyr o’r ysgol a dangoswyd iddo sut y maent wedi cael eu hysbrydoli gan y Gemau Paralympaidd a sut maent yn ymgorffori’r Gwerthoedd Paralympaidd yn eu gweithgareddau ysgol bob dydd.

Cafodd Xavi Gonzalez hefyd weld ystod o weithgareddau yn cynnwys perfformiad o ddawns a ysbrydolwyd gan chwaraeon Paralympaidd a darlleniad o gerdd a ysbrydolwyd gan y Gemau Paralympaidd. Bu tua 30 o fyfyrwyr o dair ysgol leol yn arddangos y chwaraeon Paralympaidd y maent wedi bod yn dysgu amdanynt, yn cynnwys Boccia a Phêl-foli Eistedd.

Dywedodd Xavi Gonzalez, Prif Weithredwr yr IPC: ‘Roedd yn wych ymweld ag ysgol sydd drwy gyfrwng prosiect Bydd Barod yn byw ac yn anadlu gwerthoedd y Mudiad Paralympaidd erbyn hyn. ‘Gwnaeth y myfyrwyr argraff ddofn arnaf gyda’u gwybodaeth am y Gemau Paralympaidd a’n hathletwyr. Mae’r prosiect hwn yn un enghraifft o sut y bydd Gemau Llundain 2012 yn gadael gwaddol barhaus.

Ymunodd Chris Holmes, Cyfarwyddwr Integreiddio Paralympaidd Pwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd (LOCOG) â Xavi Gonzalez ar yr ymweliad. Bu iddynt gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb ble’u holwyd gan y myfyrwyr am bod gwedd o’r Gemau Paralympaidd yn cynnwys eu profiadau hyd yma, hanes y Gemau a’r gwahanol chwaraeon.

Hefyd, cyflwynodd Xavi a Chris i’r ysgol y tystysgrif penodol Baralympaidd cyntaf gan yr IPC a Chymdeithas Baralympaidd Prydain sy’n gwobrwyo ysgolion sy’n rhan o rwydwaith Bydd Barod sy’n ymgymryd â gweithgaredd penodol Baralympaidd diddorol ac ysbrydoledig.

Mae Curwen Primary School wedi bod yn rhan o rwydwaith Bydd Barod ers Ebrill 2010. Ers ymuno â‘r rhwydwaith, mae myfyrwyr wedi bod yn dysgu am chwaraeon Paralympaidd yn eu gwersi AG, wedi cymryd rhan ym Mhencampwriaeth Ysgolion Paralympaidd Hackney ac wedi dysgu am hanes y Gemau Paralympaidd a pharalympiaid.

Dywedodd Akira, myfyriwr yn Curwen Primary School: ‘Rwy’n meddwl bod y Gemau Paralympaidd yn ysbrydoliaeth i bobl anabl ifanc oherwydd maent yn dangos y gallwch gyrraedd eich nod mewn chwaraeon pwy bynnag yr ydych.’

Dywedodd Seb Coe, Cadeirydd LOCOG: ‘Roedd yr ymweliad hwn yn gyfle gwych i ddangos i’r IPC sut mae pobl ifanc yn Llundain yn cael eu hysbrydoli gan Gemau Paralympaidd Llundain 2012 a’u bod yn teimlo’n angerddol tuag at ddefnyddio’r gwerthoedd Paralympaidd yn eu bywydau bob dydd. Rydym eisiau defnyddio grym y Gemau i ysbrydoli newid parhaus ac mae’r digwyddiad heddiw wedi dangos bod gennym gyfle gwirioneddol i helpu i newid agwedd pobl tuag at anbledd ac i roi cyfle i bawb gymryd rhan mewn chwaraeon.’