• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Cofrestrwch ar gyfer tocynnau!
15 Chw 2011

Mae’r amserlen yn cynnwys manylion llawn am 19 diwrnod o gystadlu chwaraeon, yn cynnwys amseroedd a lleoliadau ar gyfer 640 o sesiynnau, mewn 300 o gystadlaethau, 39 disgyblaeth a 26 o chwaraeon!

Mae’r amserlen cystadlaethau wedi cymryd dros ddwy flynedd i’w datblygu, ac mae wedi cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, 26 o ffederasiynau chwaraeon rhyngwladol, a rhanddeiliaid y ddinas gynnal ar gyfer pob lleoliad yn y Gemau Olympaidd.

Cyhoeddir amserlen y gystadleuaeth chwaraeon union fis cyn i docynnau Gemau Olympaidd Llundain 2012 fynd ar werth. Bydd 6.6 miliwn o docynnau ar werth i’r cyhoedd rhwng 15 Mawrth a 26 Ebrill 2011.

Dywedodd Sebastian Coe, Cadeirydd LOCOG, ‘Mae cyhoeddi amserlen y gystadleuaeth chwaraeon Olympaidd yn golygu y gall pawb – athletwyr, hyfforddwyr, darlledwyr a phawb sydd eisiau bod yn rhan o Lundain 2012 ddechrau cynllunio ar gyfer y Gemau.’

Nawr gall teuluoedd ar hyd a lled y wlad gynllunio eu haf 2012. Mae’r amserlen yn arddangos chwaraeon rhagorol a chyffrous bob un diwrnod, dros 19 diwrnod, gyda 302 o fedalau i’w hennill.

Bydd tocynnau Gemau Olympaidd Llundain 2012 ar werth rhwng 15 Mawrth a 26 Ebrill 2012. Nid oes unrhyw fantais o wneud cais yn gynnar, nid yw’n gyntaf i’r felin – mae gan bawb gyfle cyfartal. Bydd sesiynnau a ordanysgrifir yn destun enwau o het.

Bydd tocynnau ar gyfer Gemau Paralympaidd Llundain 2012 ar werth ar 9 Medi 2011.

Cofrestrwch nawr ar gyfer popeth y mae angen i chi ei wybod am docynnau Olympaidd.