Leon Taylor, Enillydd Medal Arian Olympaidd a Llysgennad BT yn ymweld ag ysgol rhwydwaith Bydd Barod i lansio rhaglen ffôn BT fel rhan o raglen Hyfforddi am Oes BT.
Bt yn lansio rhaglen ffôn symudol newydd!
18 Chw 2011
Mae Rhaglen Hyfforddi am Oes yn annog rhieni a gofalwyr i helpu plant i roi cynnig ar wahanol gemau, ac ar yr un pryd yn eu cyflwyno i egwyddorion hyfforddi allweddol y gallant eu mabwysiadu, sy’n cofleidio’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd i helpu pobl ifanc wella mewn unrhyw beth. Mae’r gemau yn y modiwl hwn yn hyblyg; gellir eu haddasu i’w defnyddio gyda phobl ifanc a gyda rhai ag anableddau.
Tra yn Christchurch C of E Primary School yn Wandsworth, dywedodd Leon: “Rwyf wrth fy modd bod BT wedi creu 12 o gemau gyda’r bwriad o helpu rhieni i fynd yn ôl i’r arfer o chwarae â‘u plant. A gyda’r rhaglen symudol hon, mae hyd yn oed yn haws chwarae’r gemau hyn y tu allan neu wrth deithio.”
Mae’r adnodd Hyfforddi am Oes yn rhan o strand Cyfathrebu, Cydweithio a Dinasyddiaeth Bydd Barod, rhaglen adddysg swydddogol Llundain 2012. Dewch i ddarganfod mwy













