Bedfordshire College fel aelod o rwydwaith Bydd Barod. Dewch i ganfod beth maent wedi bod yn ei wneud a phwy ymwelodd â'r coleg.
Bedfordshire College
10 Chw 2011
Ymwelodd tîm dirprwyol o LOCOG, Pwyllgor Trefnu’r Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn Llundain, â Central Bedfordshire College fel rhan o’u taith o gwmpas Swydd Bedford.
Ymwelodd y Tîm Dirprwyol, dan arweiniad Paul Deighton, Prif Weithredwr LOCOG, a Champws Dunstable Central Bedfordshire College ar gymal cyntaf eu hymweliad â‘r ardal. Cychwynodd y bore gyda staff a myfyrwyr yn cyflwyno peth o’r gwaith yr oeddent wedi ei gwblhau, yn cynnwys lansio DVD a gynhyrchwyd gan fyfyrwyr Cyfryngau yn y Coleg. Yna cymerodd y Tîm Dirprwyol ran mewn gweithdai gyda’r myfyrwyr Cyfryngau ynglŷn â phrosesau cynhyrchu eu DVD, a darparwyd cyfle am sesiwn holi ac ateb.
Yna aeth Paul a’r Tîm ymlaen i Ganolfan Hamdden Dunstable ble’r oeddent yn gallu cymryd rhan mewn digwyddiad chwaraeon oedd yn cael ei gynnal gan Lysgenhadon Ifanc y Coleg gyda 50 o blant ysgol o Hawthorne Lower School yn Houghton Regis. Bu hyn yn gyfle gwych i brofi’n ymarferol y gwaith caled mae Central Bedfordshire College wedi bod yn ei wneud fel rhan o rwydwaith Bydd Barod. Daeth yr ymweliad i ben gyda chinio VIP a ddarparwyd gan fyfyrwyr Lletygarwch ac Arlwyo, sy’n amlygu’r gwaith traws-goleg sydd wedi cael ei wneud.
Amcan craidd ymwneud Central Bedfordshire College gyda rhwydwaith Bydd Barod yw serio Gwerthoedd Gemau 2012 ar y Coleg a’r gymuned ehangach i sicrhau bod gwaddol y Gemau yn parhau i fyw yn y genhedlaeth nesaf. Dywedodd Ali Hadawi CBE, Pennaeth y Coleg, “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein dewis gan LOCOG fel yr unig Goleg Addysg Bellach yn Swydd Bedford i gael ymweliad, o ganlyniad i ymdrech anferthol a llwyddiant ein myfyrwyr yn Central Bedfordshire College. Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i’n myfyrwyr arddangos eu doniau a’u talentau i’r gymuned ac i adeiladu ar eu profiadau o fewn eu dewis faes i’w helpu yn y dyfodol. Rwy’n credu ei bod yn hanfodol ein bod ni, fel sefydliad, yn cofleidio Gemau 2012 ac yn cydnabod y cyfleon y mae’r digwyddiad anferth hwn yn ei ddarparu i bobl ifanc a’r gymuned gyfan. Rwy’n falch iawn o fy myfyrwyr a’r gwaith maent wedi ei gyflawni.”
Mae Central Bedfordshire College yn rhan o rwydwaith Bydd Barod ac wedi bod yn gweithio’n galed i hyrwyddo gwerthoedd Gemau 2012 ar draws y Coleg ac yn y gymuned trwy weithio gydag ysgolion lleol ar ddigwyddiadau chwaraeon amrywiol.













