• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Mae Ysgol Gynradd Stanburn yn Harrow newydd ymuno â rhwydwaith Bydd Barod!
18 Aws 2011

Pam na ddilynwch chi arweiniad Ysgol Gynradd Stanburn – cyflwynwch gais i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod heddiw!

Mae cais yr ysgol yn amlinellu ei hymrwymiad i’r Gwerthoedd Olympaidd (cyfeillgarwch, rhagoriaeth a pharch) a’r Gwerthoedd Paralympaidd (ysbrydoliaeth, penderfyniad, dewrder a chydraddoldeb) Mae’r ysgol yn amlwg yn defnyddio Gemau Llundain 2012 i ysbrydoli disgyblion o bob oed i ymwneud â phrosiectau a gweithgareddau sy’n seiliedig ar y Gwerthoedd.

Cynhwysodd eu cais enghraifft odidog o sut y doir â Gemau Llundain 2012 yn fyw yn yr ysgol. Peintiwyd yn y coridorau furluniau a ysbrydolwyd gan Gemau Llundain 2012! Yn fuan byddwn yn cysylltu â‘r ysgol ac yn eu croesawu i rwydwaith Bydd Barod.

Gall unrhyw ysgol neu goleg yn y DU ddod yn aelod o rwydwaith Bydd Barod, Mae aelodau rhwydwaith Bydd Barod yn cael mynediad i wobrau a chyfleoedd egsglwsif. Trwy ymuno â rhwydwaith Bydd Barod rydych hefyd yn rhag-gymhwyso eich ysgol neu goleg i ddyraniad o docynnau Ticketshare Llundain 2012 i Gemau Llundain 2012! Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 16eg Rhagfyr 2011 i fanteisio ar y cynnig hwn.

Gwyliwch ffilm a chael gwybod rhagor am fanteision rhwydwaith Bydd Barod.

Ymunwch â rhwydwaith Bydd Barod heddiw!