• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Pencampwr Byd yn ymarfer yn galed
26 Aws 2011

p. (intro) Mae Pencampwr Byd ar yr 800m, 1,500m a’r 5,000m yn paratoi ar gyfer Gemau Paralympaidd Llundain 2012.

Mae David Weir yn cofleidio’r cyfle i allu cystadlu ar lwyfan byd-eang o flaen ei deulu a’i ffrindiau. Mae’n cyfeirio ato’i hun fel “dyn unig” a dywed “nid wyf erioed o’r blaen wedi cael neb yn dod i Gemau Paralympaidd na Phencampwriaeth Byd, felly bydd yn eithaf gwahanol y flwyddyn nesaf, yn amlwg, oherwydd byddaf adref,”

Dywedodd Weir mai moment allweddol ei yrfa lwyddiannus hyd yma oedd pan ennillodd aur fis Ionawr yn y rasus T54 800m, 1,500m a’r 5,000m ym Mhencampwriaethau Byd Y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol (PPRh) yn Christchurch, Seland Newydd. Gyda chadair olwyn newydd, ac ar ôl gwella o anaf i’w ysgwydd i ennill Marathon Efrog Newydd fis Tachwedd diwethaf, disgleiriodd yn Chrischurch trwy drechu ei arch-elyn, Marcel Hug o’r Swistir, mewn tair ras.

Mae Weir yn ymarfer 6 diwrnod yr wythnos wrth geisio ennill yn y 1,500m yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012.