• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Mae amserlen gystadlu'r Gemau Paralympaidd wedi cael ei chyhoeddi.
26 Aws 2011

p. (intro) Gyda bron i flwyddyn i fynd hyd at ddechrau Gemau Paralympaidd Llundain 2012 mae’r amserlen gystadlu chwaraeon wedi cael ei chyhoeddi.

Mae’r amserlen wedi cael ei chymeradwyo gan y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol, y ffederasiynau chwaraeon rhyngwladol perthnasol a rhanddeiliaid y Ddinas Gynnal ar gyfer pob lleoliad.

Caiff yr amserlen chwaraeon ei rhyddhau union bythefnos cyn i docynnau Gemau Paralympaidd Llundain 2012 fynd ar werth ar 9 Medi hyd at 26 Medi 2011. Bydd tua 2 filiwn o docynnau ar gael i’r cyhoedd, a hyd yma mae dros filiwn o bobl wedi cofrestru eu diddordeb ar-lein sy’n dangos y diddordeb cynyddol yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012.

Bydd Gemau Paralympaidd Llundain 2012 yn dechrau gyda’r Seremoni Agor ar 29 Awst 2012. Yn ystod yr 11 diwrnod canlynol bydd 4,200 o athletwyr o 150 o wahanol wledydd yn cystadlu mewn 20 o wahanol chwaraeon mewn 14 lleoliad ac yn ceisio ennill 1 o 500 o Fedalau Aur.

Dywedodd Syr Philip Craven, Llywydd y PPRh: “Yn syml, bydd Gemau Paralympaidd Llundain 2012 yn ‘Chwaraeon fel Erioed o’r Blaen’. Bydd ein hathletwyr elît yn cyfareddu biliynau o bobl o gwmpas y byd, yn ysbrydoli miliynau ac yn y pen draw bydd hyn yn arwain at newid cymdeithasol ac yn helpu i newid y meddylfryd o ran yr hyn all pobl ag anabledd ei gyflawni.”