• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Diwrnod chwaraeon Ysgol Gosden House
16 Aws 2011

Mwynhaodd aelod o rwydwaith Bydd Barod groesawu gwestai arbennig yn eu diwrnod chwaraeon!

Cafodd diwrnod chwaraeon Ysgol Gosden House hwb ychwanegol eleni pan ymunodd Wenlock, y mascot Olympaidd, yn yr hwyl. Meddai Sue Jobling, Pennaeth AG yn yr ysgol yn Surrey, “Gwnaeth ei ymweliad wahaniaeth mawr wrth i’r holl ysgol gymryd rhan mewn gweithgareddau thematig, yn cynnwys disgen a naid uchel”.

Rhoddodd Sue enw’i hysgol i Gystadleuaeth Mascot Olympaidd Llundain 2012 a gynhelir ar y cyd gan SmallSteps4Life a rhaglen Addysg Bydd Barod LOCOG.

Nod y gystadleuaeth oedd i blant wynebu un her iach seiliedig ar dair egwyddor SmallSteps4Life: Bwyta’n Iach, Teimlo’n Dda a Defnyddio Egni. Gellid cyflawni’r her, ei chwblhau dros gyfnod o 4 wythnos o leiaf, gan ddosbarth neu’r ysgol gyfan. I ennill rhaid oedd bod yn greadigol ac effeithiol. Roedd y gystadleuaeth yn agored i bob ysgol gynradd, uwchradd neu arbennig yn Lloegr.

Roedd Gosden House yn un o dri enillydd, a’r lleill oedd: Ysgol Northgate Primary yn Crawley a Choleg Cymunedol Moat yng Nghaerlŷr. Cawsant oll ymweliad gan un o’r mascotiaid Olympaidd yn ystod tymor yr haf.

Meddai’r athrawes AG Hazel Shaw o Goleg Cymunedol Moat, Caerlŷr: “Roedd yn wych cael Wenlock gyda ni, Roedd y rhai ieuengaf yn arbennig wedi eu cyffroi wrth ei weld a hynny eu helpu i’w gwneud yn frwdfrydig ynglŷn â‘r Gemau Olympaidd ac ymarferion.” Meddai Maryam Abdinor, disgybl 12 oed yng Ngholeg Cymunedol Moat: “Fe fwynheais yn fawr neidio’r sêr yn y bore. Gwnaeth i mi feddwl pa ymarferion eraill y gallwn eu gwneud i gadw’n ffit ac efallai y dechreuaf nofio oherwydd mae hynny’n hwyl.”

Os hoffech annog eich ysgol i fod yn egniol ac yn iachach yna logiwch i SmallSteps4Life i gael ysbrydoliaeth am syniadau heriol gwahanol.

Mae SmallSteps4Life yn anelu at gael pobl ieuainc i gymryd camau bychain, ymarferol tuag at wella’u hiechyd a’u lles. Rhaglen ysgol-seiliedig yw hi sy’n annog plant i gynllunio, dylunio a chymryd rhan mewn heriau seiliedig ar y themâu o fwyta’n dda, defnyddio’u hegni a theimlo’n dda. Wrth fod yn rhan o’r broses gwneud penderfyniadau, mae plant yn fwy tebygol o gael eu cymell i gynnal y newid ymddygiad.

Annogir yr ysgolion sy’n cymryd rhan i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod er mwyn derbyn mwy o fuddion a chydnabyddiaeth gan Lundain 2012.
Ymunwch â rhwydwaith Bydd Barod heddiw!