• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Bydd Barod am y Gemau Paralympaidd
29 Aws 2011

Heddiw mae’n union flwyddyn hyd at ddechrau Gemau Paralympaidd Llundain 2012

Mae Llywydd y PPRh Syr Philip Craven yn credu y gall y Gemau Paralympaid hyn fod y rhai gorau erioed. Mae gan Craven nifer o resymau dros deimlo mor bositif am lwyddiant posibl Gemau Paralympaidd Llundain 2012.

Mae Craven yn gobeithio y bydd yr ‘Agitos’ (symbol y Mudiad Paralympaidd) yn cael mwy o sylw ac y bydd pobl yn dechrau deall yr hyn mae’n ei gynrychioli.

Mae’r Agitos yn cynrychioli:

  • Penderfyniad
  • Ysbrydoliaeth
  • Dewrder
  • Cydraddoldeb

Dywedodd Syr Philip Craven: “Un o’r gweddau mwyaf pleserus i mi yn bersonol yw’r brwdfrydedd a’r awch y mae pobl yn ei ddangos tuag at Gemau Paralympaidd Llundain 2012.” Mae hyn yn golygu y gall mwy a mwy o bobl wylio’r Gemau Paralympaidd a gwerthfawrogi Gwerthoedd y Gemau a’r athletwyr; fydd yn fwy o help i ledaenu’r neges Baralympaidd.

Mae Craven hefyd yn credu y bydd y Gemau’n llwyddiant economaidd. Mae’n gobeithio y bydd yr ‘arian tocynnau, ynghyd ag incwm o nawdd a darlledu yn sicrhau mai Gemau Paralympaidd Llundain 2012 fydd y rhai mwyaf proffidiol eto.’

Mae Syr Philip Craven hefyd yn credu y gall y diddordeb ond cynyddu o ganlyniad i’r ‘holl weithgareddau fydd yn digwydd rhwng nawr a’r Seremoni Gloi’, fydd yn rhagor o help i Gemau Paralympaidd Llundain 2012 fod y rhai gorau erioed.