Bob mis caiff ysgol wahanol ei dewis i fod yn 'ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod' am eu hymrwymiad rhyfeddol i fyw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Dewch i ddarganfod mwy!
Ysgol y mis rhwydwaith Bydd Barod Ebrill 2011!
30 Ebr 2011
Mae Parkstone Grammar School wedi cael ei dewis yn ‘Ysgol y Mis rhwydwaith Bydd Barod’ ar gyfer Ebrill 2011.
Mae Parkstone Grammar School (Poole, De Orllewin Lloegr) wedi bod yn arwain ei ‘theulu’ o 8 Ysgol Gynradd mewn ystod o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn gysylltiedig â‘r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Mae Arweinwyr Chwaraeon a Llysgenhadon Ifanc wedi trefnu a chynnal amryw o wyliau a phencampwriaethau ar gyfer dros 1000 o ddisgyblion. Maent wedi cynnwys ystod eang o chwaraeon yn cynnwys Pêl-droed, Tennis, Pêl-foli, Nofio a Badminton. Maent hefyd wedi arwain gweithgareddau achub bywydau, dawns, pê-droed stryd, pêl-rwyd a golff. Bu myfyrwyr o Parkstone Grammar School yn cymryd rhan yn ymdrech Record Byd ‘Move It,Move It’ am y nifer mwyaf o bobl yn dawnsio gyda’i gilydd, ac arweinwyr chwaraeon o’r ysgol oedd yn arwain y perfformiad. Cyflwynir tystysgrifau i fyfyrwyr ym mhob digwyddiad pan fônt yn cael eu gweld yn byw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.
Mae Parkstone Grammar School yn falch eu bod wedi cael eu dewis yn ysgol y mis rhwydwaith Bydd Barod!
Dewiswyd yr ysgol ar sail blog post neilltuol oedd yn disgrifio’r gweithgareddau yr oedd y myfyrwyr wedi cymryd rhan ynddynt. Bydd yr ysgol yn derbyn llythyr i’w llongyfarch oddi wrth Seb Coe, Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, ac maent wedi ennill ymweliad gan athletwr fel gwobr am eu hymdrechion.
Os hoffech fod â gobaith o gael eich dewis fel ‘ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod’ ond nad ydych eto yn aelod o Rwydwaith Bydd Barod, yna gwnewch gais heddiw a dechrau blogio!
Gwnewch gais nawr













