• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Mae 'ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod' gyntaf erioed wedi cael ei chyhoeddi!
27 Med 2010

Yr ysgol gyntaf erioed i gael ei henwi’n ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod yw…St Machar Academy yn Aberdeen!

Dewiswyd St Machar Academy yn Aberdeen fel y gyntaf erioed i fod yn ‘ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod’ am eu hymrwymiad rhyfeddol i fyw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.

Yma yn St Machar Academy yn Aberdeen, rydym wedi bod yn hyrwyddo’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ers y garreg filltir o 1000 o ddyddiau tan Llundain 2012. Ar y cyd gyda’n partner Ysbrydoliaeth Rhyngwladol, Ysgol Uwchradd Cultura yn Johannesburg, De Affrica, rydym wedi dechrau gweld y gwaith fydd yn datblygu i fod yn rhan allweddol o gynlluniau’r ysgol i godi’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd i lefel ryngwladol yn ein cymuned. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o Lundain 2012 ymysg staff, disgyblion a’r gymuned trwy drefnu digwyddiadau a chreu arddangosfeydd ar waliau i ddynodi dyddiadau arwyddocaol. Rydym nid yn unig yn falch, ond yn ei hystyried yn anrhydedd eithriadol i gael ein dewis fel ‘ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod’ gyntaf erioed.

Dewiswyd yr ysgol o ganlyniad i flog a bostiwyd gan fyfyriwr yn yr ysgol. Roedd yn amlinellu cyfraniad yr ysgol yng Ngemau Ysgolion y DU. Bu i ddau fyfyriwr wirfoddoli ynghyd â 20 arweinydd ifanc oedd yn cynrychioli 10 o wledydd gwahanol fel rhan o raglen Ysbrydoliaeth Rhyngwladol. Roedd eu rôl fel gwirfoddolwyr yn cynnwys cario offer, stiwardio’r athletwyr a chlirio’r lloriau ar gyfer chwaraeon megis pêl-foli, athletau a seiclo. Tra’n ymgymryd â‘r rôl hon roeddent hefyd yn cael cyfle i ddod i adnabod pobl ryfeddol o bob rhan o’r byd. Bydd yr ysgol yn cael ymweliad gan athletwr fel gwobr am eu hymdrechion.

Os hoffech fod â gobaith o gael eich dewis fel ‘ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod’ ond nad ydych eto yn aelod o Rwydwaith Bydd Barod, yna gwnewch gais heddiw a dechrau blogio!
Gwnewch gais nawr