• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Mae cystadleuaeth Llais Mawr BT wedi cael ei lansio - Cymerwch ran nawr!
28 Med 2010

Mae BT wedi lansio eu cystadleuaeth Llais Mawr, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr a phobl ifanc ar draws y DU ennill £1,000 i’w helpu i gynhyrchu ffilm yn ymwneud â themâu amrywiaeth a chynhwysedd.

Bydd myfyrwyr rhwng 11 ac 19 oed yn gweithio mewn timau mewn ysgolion a grwpiau ieuenctid i feddwl am syniad ar gyfer o ffilm ar themâu amrywiaeth a chynhwysedd gan gael cyfle i gyflwyno eu syniadau gerbron panel o arbenigwyr. Bydd tri syniad am ffilm o bob un o ddeudeg rhanbarth y DU yn cael arian a chefnogaeth gan golegau cyfryngau lleol i gynhyrchu eu ffilmiau. Dilynir hyn gan rowndiau rhanbarthol, pan fydd y ffilmiau ar y rhestr fer yn cael eu dangos ar sgriniau anferth mewn 19 lleoliad yng nghanol dinasoedd sy’n ffurfio rhwydwaith Live Site Llundain 2012. Bydd yr enillydd yn derbyn y brif wobr mewn seremoni wobrwyo genedlaethol ym Mai 2012 ac yn cymryd rhan yng Ngŵyl Llais Mawr BT.

Dywedodd Suzi Williams, Cyfarwyddwr Marchnata a Brand y Grŵp: “Un o’n huchelgeision fel partner cynaliadwyedd Llundain 2012 yw helpu i greu cymdeithas fwy cynhwysol a chynaladwy, ac mae pobl ifanc wrth galon hynny. Trwy Llais Mawr rydym yn rhoi cyfle i bobl ifanc gyfathrebu’r materion llosg sy’n bwysig iddyn nhw, gan eu helpu i ysbrydoli a denu eraill wrth i’r Gemau agosau.”

Daw set cynhwysfawr o adnoddau fideo gyda’r prosiect er mwyn arwain a chefnogi’r myfyrwyr drwy eu tasgau, o’u dysgu am sut i gynnal trafodaethau gyda meddyliau agored a rhannu safbwyntiau gwahanol i ffyrdd o gyrraedd consensws. Bydd yn cynnwys deunydd fydd yn eu helpu i greu wrth gydweithio, yn ogystal â deunydd ysgogi yn ymwneud â‘r ystod o bosibiliadau dan ambarel ffilm. Yn ychwanegol at hyn i gyd bydd yna enghreifftiau o ddogfennau cynigion go iawn o’r diwydiant ffilm a theledu fel y gallant weld sut mae pobl broffesiynnol yn pecynnu eu syniadau.

Mae Llais Mawr BT yn rhan o strand Cyfathrebu, Cydweithrediad a Dinasyddiaeth Bydd Barod+ ac mae ysgolion sy’n cymryd rhan yn cael eu hannog i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod am fwy o wobr a chydnabyddiaeth gan Lundain 2012.

Dewch i ddarganfod mwy