Film Nation: Shorts yn lansio strand newydd o'u cystadleuaeth ar gyfer egin gynhyrchwyr ffilmiau.
Cymerwch ran yn Film Nation: Shorts nawr!
21 Med 2010
Mae Jude Law a Jeremy Gilley wedi lansio thema newydd ar gyfer cystadleuaeth Film Nation: Shorts.
Ymunodd Cyfarwyddwr yr Olympiad Diwylliannol, Ruth Mackenzie a’r actorion a’r cynhyrchwyr ffilmiau Jude Law a Jeremy Gilley ag ysgol uwchradd Petchey Academy yn Hackney er mwyn lansio thema newydd ar gyfer cystadleuaeth Film Nation: Shorts. Mae’r prosiect yn rhoi cyfle i egin gynhyrchwyr ffilmaiu i arddangos eu gwaith yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.
Mewn partneriaeth â Panasonic a gydag arian gan y Loteri Genedlaethol, lansiwyd Film Nation: Shorts ym Mawrth 2010, ac mae’n wahoddiad i rai 14-25 oed i greu ffilmiau byrion sy’n dathlu Gwerthoedd y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd: parch, cyfeillgarwch, cydraddoldeb, rhagoriaeth, penderfyniad, dewrder ac ysbrydoliaeth.
Mae sylfaenydd Peace One Day, Jeremy Gilley a’r llysgennad Jude Law wedi ymuno â Llundain 2012 i lansio strand newydd i’r gystadleuaeth. Mae myfyrwyr yn cael gwahoddiad i gynhyrchu ffilmiau byrion a ysbrydolir gan thema ‘Cymod’. Gall myfyrwyr ganolbwyntio ar brofiadau pobl ifanc o gymodi gyda chyfeillion neu deulu, sut mae cymodi wedi eu hysbrydoli hwy neu wedi gwneud gwahaniaeth i’w bywydau, neu beth fyddai cymodi byd-eang yn 2012 yn ei olygu iddyn nhw yn bersonol, mae Llundain 2012 gyda Peace One Day yn chwilio am ffilmiau gyda straeon ysbrydoledig. Creodd myfyrwyr o Petchey Academy eu ffilm ysbrydoledig eu hunain ac roeddent yn falch o allu dangos eu ffilm i gynulleidfa oedd yn frith o sêr.
Dywedodd Jude Law: ‘Heddiw, ar Ddiwrnod Heddwch y Byd, rydym yn falch o gael gweithio gydag Olympiad Diwylliannol Llundain 2012 i ofyn i bobl ifanc weithredu i newid y byd trwy greadigrwydd a grym ffilm. Mae Peace One Day eisoes yn gweithio gyda phobl ifanc ar dras y byd, ac mae’n cydweithrediad ni gyda Llundain 2012 yn gyfle gwych i gydio ym mhobl ifanc mewn ffordd greadigol.’
Gellir ymgeisio ar gyfer gwobrau Film Nation: Shorts eleni hyd at 1 Hydref 2010. Gellir canfod Film Nation: Shorts yn strand diwylliant a chreadigrwydd Bydd Barod +.
Dewch i ddarganfod beth mae Jude Law a myfyrwyr o Petchey Academy yn ei feddwl am thema newydd cymod ar gyfer Film Nation: Shorts yn eu blog fideo.













