Myfyrwyr Sidmouth College yw enillwyr 'A oes gennych chi yr hyn sydd ei angen?' ac maent wedi ennill taith i'r amgueddfa Olympaidd yn y Swistir!
Mae gan Sidmouth College yr hyn sydd ei angen!
17 Hyd 2010
Ymwelodd y pum ysgol sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol â swyddfeydd Llundain 2012 ar gyfer ffeinal ‘A oes gennych chi yr hyn sydd ei angen?’ ar 15 Hydref.
Roedd Laurence Jackson, Wilmslow High, Park House, Sidmouth College a Kirk Hallam School wedi llwyddo i gael eu henwau ar y rhestr fer ar gyfer y rownd derfynol ac wedi cael eu gwahodd i swyddfeydd Llundain 2012 i roi cyflwyniad yn y rownd derfynol.
Cychwynodd y dydd gyda thaith o gwmpas y Parc Olympaidd. Yna cychwynodd y gwaith caled. Rhoddwyd i’r pum ysgol frîff i baratoi cynllun o weithgareddau ar gyfer grŵp o ymwelwyr ifanc o Sir Olympaidd o’u dewis. Fel rhan o’r diwrnod, bu’n rhaid i’r ysgolion hefyd gyfweld â‘r Athletwr Olympaidd Jenny Pacey ac ymateb i ffactor risg funud olaf. Yna rhoddodd y pum ysgol gyflwyniad pum munud i banel o feirniaid cyn i’r enillydd gael ei ddewis. Roedd safon y cyflwyniadau’n rhagorol ac o ganlyniad bu’n waith caled i’r beirniaid.
Yn y diwedd cyhoeddwyd mai’r enillydd oedd Sidmouth College yn Nyfnaint, a hynny am eu hymdriniaeth broffesiynnol a’u defnydd o’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Nawr bydd y tîm buddugol yn cael ymweld â‘r amgueddfa Olympaidd yn y Swistir.
Mae ‘A oes gennych chi yr hyn sydd ei angen?’ yn rhan o strand Menter Bydd Barod+ ac mae’n amcanu at ddatblygu sgiliau menter rhai 11-14 oed drwy ofyn i fyfyrwyr roi cyflwyniad i geisio sefydlu’r ysgol yn wersyll ymarfer cyn-Gemau cymeradwyedig.
Annogir yr ysgolion sy’n cymryd rhan i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod er mwyn derbyn mwy o fuddion a chydnabyddiaeth gan Lundain 2012.













