• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Enillwyr cystadleuaeth ysgolion Ysbrydoliaeth Rhyngwladol yn ymweld â'r Parc Olympaidd
10 Hyd 2010

Mae tair ysgol o’r DU wedi ennill cyfle egsglwsif i ymweld â Pharc Olympaidd Llundain 2012 ar ôl cyflwyno lluniau oedd yn arddangos eu hymwneud ag Ysbrydoliaeth Rhyngwladol , rhaglen gwaddol rhyngwladol Llundain 2012.

Yr ysgolion buddugol, Vandyke Upper School yn Leighton Buzzard, Burleigh Community College yn Loughborough a Sir Frederic Osborn School yn Welwyn Garden City, anfonodd yr enghreifftiau gorau o sut mae ysgolion yn rhoi bywyd i Ysbrydoliaeth Rhyngwladol, ac roeddynt yn cynnwys lluniau o ymweliadau cyfnewid, cyfranogi mewn chwaraeon, croesawu dirprwyaeth o bartner-wledydd a gwaith prosiect penodol.

Tra’u bod ar ymweliad, cafodd disgyblion gyfle i weld â‘u llygaid eu hunain y gwaith sy’n mynd yn ei flaen ym Mharc Olympaidd Llundain, ble bydd y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn cael eu cynnal yn 2012. Fel rhan o’r daith gwelwyd y prif leoliadau yn cael eu hadeiladu gan yr Olympic Delivery Authority (ODA) yn cynnwys y Stadiwm Olympaidd, Canolfan Chwaraeon Dŵr, Felodrom, a’r Arena Pêl-law, gan ddysgu hefyd am y rhaglenni amgylcheddol a chymunedol gaiff eu cynnal yn y Parc Olympaidd.

A yw eich ysgol neu eich coleg chi eisiau cyfle i ennill taith o gwmpas y Parc Olympaidd a gwobrau a chyfleon egsglwsif eraill? Dewch i gael gwybodaeth am ymuno â rhwydwaith Bydd Barod .