• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Dyluniadau'r genedl ar ddarnau arian 50c ar gyfer Llundain 2012!
13 Hyd 2010

Am y tro cyntaf mewn 1,100 o flynyddoedd o’i hanes mae’r Bathdy Brenhinol yn cyhoeddi cyfres o ddarnau arian, wedi eu dylunio gan y cyhoedd Prydeinig, i’w dosbarthu’n genedlaethol.

Mae’r darnau 50c yn dangos pob un o’r 29 camp Olympaidd a Pharalympaidd fydd yn cael eu chwarae yn ystod Llundain 2012, ac fe fyddant yn waddol hir dymor Gemau Llundain 2012.

Cyflwynwyd dros 27,000 o ddyluniadau i’r Bathdy Brenhinol yn dilyn lansio cystadleuaeth gyhoeddus yn Ionawr 2009. Ar ôl misoedd o drafodaeth ac ymgynghori, dewiswyd y 29 dyluniad terfynol yn ddienw gan banel o gynrychiolwyr o’r Bathdy Brenhinol, Llundain 2012 a’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol. Ac fel pob darn arian a ddefnyddir yn y DU heddiw, bu’n rhaid i bob dyluniad gael cymeradwyaeth derfynol gan y Trysorlys a’i Mawrhydi y Frenhines.

Daw’r enillwyr o amrywiaeth eang o broffesiynnau, cefndiroedd a lleoliadau o gwmpas y wlad, yn cynnwys heddwas o Fanceinion, chef rhan amser o Gernyw a gweithiwr cymdeithasol 75 oed wedi ymddeol o Derby.

Mae’r casgliad hefyd yn creu hanes drwy gynnwys dyluniadau gan ferch ysgol 10 oed o Fryste a myfyriwr 16 oed o Sir Benfro; y plentyn a’r person cyntaf yn ei arddegau i ddylunio darn arian gweithredol yn y deyrnas.

Dywedodd Dave Knight, Cyfarwyddwr Darnau Arian Coffa’r Bathdy Brenhinol: “Mae pob darn yn cyfleu ysbryd, cyffro ac angerdd y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Ar eu pennau eu hunain mae pob un yn ddarn o gelfyddyd, gyda’i gilydd maent yn bortread ysbrydoledig o ffenomena chwaraeon.”

Dywedodd Sebastian Coe, Cadeirydd Llundain 2012: “Rwyf yn edrych ymlaen at ganfod yr un cyntaf yn fy newid mân a chasglu pob un.”

Dewch i ddarganfod mwy