Mae Bishop Rawstorne School wedi dangos bod ei myfyrwyr yn awyddus i guro'r twyllwyr mewn her gwrth dopio
Cyhoeddi enillydd Her GTPM Llundain 2012
8 Hyd 2010
Mae Bishop Rawstorne School yn Leyland wedi ennill y drydedd Her GTPM.
Gwahoddwyd ysgolion ar draws y DU gan Rwydwaith Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEMNET) i ddangos sut fyddant yn ymgymryd â thechnegau labordy gwrth dopio er mwyn atal twyllo.
Roedd yr her, a gefnogwyd gan GlaxoSmithKline (GSK) yn profi gwybodaeth a gallu mewn technegau labordy gwrth dopio o achrediad labordy a dadansoddi meintiol i ddiogelwch a sicrhau’r gadwyn o gadw samplau.
Bu i Bishop Rawstorne School guro saith tîm arall ar hyd a lled y wlad a gyrhaeddodd y rownd derfynol, lle bu iddynt wynebu cyfweliad dull Dragons’ Den gan feirniaid, yn cynnwys enillydd medal aur Olympaidd 2008 am Gaiacio Cyflym, Tim Brabants.
Yr allwedd i lwyddiant tîm buddugol Bishop Rawstorne oedd y ffordd y bu iddynt gymhwyso’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd i’w prosiect, yn cynnwys gwaith tîm 100%, cefnogaeth i’w gilydd a chydraddoldeb, yn ogystal â gwybodaeth wyddonol.
Hon yw’r drydedd o ddeg Her GTPM sy’n gwahodd timau o rai 11-14 oed o ysgolion uwchradd ar draws y DU i chwarae eu rhan yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012. Dyluniwyd pob un i alluogi pobl ifanc i ddefnyddio’r sgiliau a ddysgwyd mewn gwersi Gwyddoniaeth, Dylunio a Thechnoleg a Mathemateg i greu rhywbeth diddorol, defnyddiol a thrawiadol o bosibl.
Mae’r bedwaredd Her, a gefnogir gan BP, nawr ar gychwyn sydd yn ymwneud â thema drafnidiaeth a lleihau ôl troed carbon y gwylwyr fydd yn teithio i Llundain 2012.
Dewch i ddarganfod mwy
Mae Heriau GTPM yn rhan o strand Menter Bydd Barod+ a chaiff ysgolion sy’n cymryd rhan eu hannog i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod am fwy o wobrau a chydnabyddiaeth gan Lundain 2012.













