• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

'Ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod' mis Tachwedd yw...
29 Tach 2010

Llongyfarchiadau i ysgol gynradd a meithrinfa Charlotte yn Ilkeston!

Dewisiwyd ysgol gynradd a meithrinfa Charlotte yn Ilkeston fel ‘Ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod’ ar gyfer mis Tachwedd o ganlyniad i’w hymrwymiad neilltuol i fyw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.

Yma yn ysgol gynradd a meithrinfa Charlotte, rydym wedi bod yn hyrwyddo y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ers cychwyn ymgyrch Bydd Barod. Rydym wedi’n cyffroi i gyd o fod yn rhan o Lundain 2012 ac wedi bod yn ymwneud â phob math o ddigwyddiadau gyda’n ffrindiau, teuluoedd ac athrawon er mwyn dod ag ysbryd y Gemau i bawb yn ein cymuned yn lleol ac yn rhyngwladol! Dros y ddwy flynedd diwethaf rydym wedi bod yn gweithio ar brosiectau sy’n gysylltiedig â chyfathrebu, cydweithio a dinasyddiaeth; menter a dysgu ymarferol, ffyrdd o fyw’n iach ac egnïol a chynaliadwyedd. Mae wedi’n helpu i hyrwyddo cred ein hysgol bod pob plentyn yn haeddu pob cyfle, pob dydd. Rydym nid yn unig yn falch, ond yn eithriadol freintiedig o gael ein dewis fel ‘ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod’ ac rydym yn edrych ymlaen i barhau â‘n hymgyrch Bydd Barod hyd at y Gemau yn 2012.

Dewiswyd yr ysgol o ganlyniad i’w postiau blog rhagorol oedd yn dangos eu lluniau ffenestri, byrddau hysbysebu a ysbrydolwyd gan y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd a’u cyfeiriadau at eu cynigion yn ein cystadleuaeth Bydd Barod i greu dy fasgot. Bydd yr ysgol yn derbyn ymweliad gan athletwr fel gwobr am eu hymdrechion a llythyr o longyfarchiadau gan Seb Coe.

Os hoffech fod â gobaith o gael eich dewis fel ‘ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod’ ond nad ydych eto yn aelod o Rwydwaith Bydd Barod, yna gwnewch gais heddiw a dechrau blogio!
Gwnewch gais nawr