Ymwelodd dau westai arbennig ag ysgol gynradd Chisenhale yn Tower Hamlets. Dewch i ddarganfod mwy.
Ymweliad sypreis!
30 Tach 2010
Bu myfyrwyr o ysgol gynradd Chisenhale yn ddigon lwcus i gael cyfarfod â Wenlock, masgot Olympaidd Llundain 2012 ac enillydd medal aur Baralympaidd Danielle Brown.
Roedd myfyrwyr ieuengaf yr ysgol wedi eu cyffroi pan gerddodd Wenlock i mewn i neuadd chwaraeon eu hysgol yn ystod gwasanaeth ynglŷn â‘r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.
Yna cafodd myfyrwyr o’r dosbarth blwyddyn 6 sypreis o ymweliad gan Danielle Brown, saethwraig Baralympaidd. Aeth Danielle i Beijing fel aelod ieuengaf sgwad saethyddiaeth GB a dod adref gyda medal aur yn y gystadleuaeth gyfansawdd. Mwynhaodd y myfyrwyr gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda Danielle ac fe gafon nhw hyd yn oed wisgo medalau Danielle! Dywedodd Danielle “Rwy’n cael fy nghyffroi wrth feddwl am gystadlu o flaen torf gartref yn 2012 ac amddiffyn fy nheitl.”
Dewiswyd yr ysgol, sy’n aelod o rwydwaith Bydd Barod, i gael ymweliad o ganlyniad i’w postiau blog rhagorol oedd yn egluro sut oeddent yn byw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.













