• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Mae 'Ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod' wedi cael ei chyhoeddi!
1 Tach 2010

Y diweddaraf i gael eu henwi’n ‘Ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod’ yw…ysgol gynradd Suttons yn Havering!

Dewisiwyd ysgol gynradd Suttons yn Havering fel ‘Ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod’ ar gyfer mis Hydref o ganlyniad i’w hymrwymiad neilltuol i fyw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.

Yma yn ysgol gynradd Suttons yn Havering rydym wedi cofleidio Gwerthoedd y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ac rydym yn falch eu bod yn un o’n testunau allweddol. Bu i blant ym mlwyddyn un a phedwar ymweld â‘r Parc Olympaidd yn Stratford i gael ysbrydoliaeth ar gyfer naw o baneli ffenestr sydd wedi cael eu cynhyrchu wrth gydweithio ag artist. Hon yw gwaddol y plant i’r ysgol. Mae’r plant nid yn unig wedi dysgu am y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd, ond maent hefyd wedi dathlu Gemau bach gyda’r gymuned gyfan trwy chwaraeon, canu, iaith arwyddion a dawns. Rydym hefyd yn falch iawn o allu gweithio’n agos gydag ysgol uwchradd leol i ysbrydoli pawb i gymryd rhan mewn chwaraeon ac i annog rhagoriaeth drwy’r cwricwlwm cyfan. Rydym yn falch eithriadol o fod yr ysgol gynradd gyntaf erioed i gael ei dewis fel ‘Ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod’.

Cafodd yr ysgol ei dewis o ganlyniad i’w postiau blog rhagorol oedd yn arddangos eu paneli ffenestr a ysbrydolwyd gan y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Bydd yr ysgol yn derbyn ymweliad gan athletwr fel gwobr am eu hymdrechion a llythyr o longyfarchiadau gan Seb Coe.

Os hoffech fod â gobaith o gael eich dewis fel ‘ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod’ ond nad ydych eto yn aelod o Rwydwaith Bydd Barod, yna gwnewch gais heddiw a dechrau blogio!
Gwnewch gais nawr