Mae trac seiclo Felodrom Llundain 2012 wedi ei orffen a bu dau berson ifanc yn ddigon lwcus i gael mynd i'w weld.
Felodrom Llundain 2012 yn derbyn canmoliaeth arolygwyr Olympaidd
22 Tach 2010
Mae’r trac seiclo yn y Felodrom wedi ei orffen!
Mae Llundain 2012 yn amcanu at greu trac seiclo cyflyma’r byd trwy deilwra geometreg y trac a gosod y tymheredd a’r amgylchiadau amgylcheddol yn y Felodrom i greu amgylchiadau ffafriol i dorri recordiau. Mae’r Felodrom hefyd wedi cael ei ddylunio gydag eisteddleoedd o gwmpas y trac i gyd er mwyn creu’r awyrgylch gorau posibl yn ystod y cystadlaethau.
Bu arweinydd ifanc o ysgol Crown Woods yn Greenwich a myfyriwr o Tower Hamlets yn ddigon lwcus o gael ymweld â‘r Felodrom i weld cynnydd y gwaith adeiladu ac i fwrw golwg ar y trac seiclo coed gorffenedig. Bu i lu o wynebau pwysig ymuno â hwy yn cynnwys Denis Oswald (Cadeirydd Comisiwn Cydlynu IOC), Seb Coe (Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd), John Armitt (Cadeirydd yr Olympic Delivery Authority), a dau seiclwr lleol sy’n edrych ymlaen at ddenyddio’r lleoliad fel gwaddol.
Dywedodd Seb Coe, Cadeirydd LOCOG: ‘Bydd hwn yn drac safon byd yn 2012 fydd yn cynhyrchu perfformiadau safon byd. Rwyf wrth fy modd yn cael ymweld â‘r lleoliad gyda dau o bobl ifanc brwdfrydig sy’n teimlo angerdd tuag at y Gemau a dau seiclwr lleol sy’n llawn cyffro ynglŷn â defnyddio’r Felodrom ar ôl y Gemau. Rydym wastad wedi dweud ein bod eisiau defnyddio grym y Gemau i ysbrydoli pobl ifanc i ddewis chwaraeon, a gobeithio y bydd yr ymweliad heddiw yn eu hysbrydoli fwy-fwy.’
Mae cwblhau’r trac coed yn golygu mai’r Felodrom fydd y lleoliad cyntaf yn y Parc Olympaidd i gael ei gwblhau yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Bydd y Felodrom ar gyfer 6,000 o bobl yn cynnal y cystadlaethau Seiclo Trac Olympaidd a Pharalympaidd yn 2012. Ar ôl y Gemau, bydd y Felodrom fel gwaddol yn cael ei ddefnyddio gan athletwyr elît a’r gymuned leol a bydd yn cynnwys caffi, gwasanaeth llogi beiciau ac adnoddau gweithdy beiciau.
Cychwynodd y gwaith o osod y trac seiclo coed ym mis Medi a bellach mae wedi ei orffen. Mae gwaith cladin coed allanol y Felodrom hefyd yn mynd yn ei flaen, gaiff ei wneud o Gedrwydden Goch drawiadol, sy’n amlygu cynaliadwyedd a rhagoriaeth bensaerniol dyluniadau’r lleoliadau.
Goruchwyliwyd dylunio a gosod trac Felodrom 2012 gan y dyluniwr trac o fri, Ron Webb, ac roedd y gwaith yn cynnwys:
- tîm o 26 o seiri coed arbenigol yn gosod y trac seiclo dros gyfnod o wyth wythnos;
- 356 o drawstiau coed, yn cynnal 56km o goed wyneb a osodwyd i ffurfio wyneb y trac;
- mwy na 300,000 o hoelion wedi eu defnyddio i osod wyneb y trac yn ei le;
- coed pinwydd cynaliadwy o Siberia wedi ei ddefnyddio ar gyfer y trac, wedi ei ddewis yn arbennig oherwydd bod y coed yn enwog am fod yn syth a thal sy’n eu gwneud yn addas ar gyfer hyd y coed sydd ei angen i siapio’r trac, ac mae hinsawdd eithafol Siberia hefyd yn golygu bod y coed yn sefydlog iawn ac na fyddant yn lleihau na’n crebachu dan amgylchiadau amgylcheddol y Felodrom.
Gwyliwch blog fideo sy’n dangos gwaith adeiladu trac y Flodrom













