• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Dyluniwch wisg wlyb!
24 Tach 2010

Ysbrydolwch eich myfyrwyr i ddylunio siwt wlyb ar gyfer Her GTPM 5, a gallant ennill offer werth hyd at £1,000 i’ch ysgol.

  • Ydych chi yn dysgu Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg neu Fathemateg (GTPM) i ddisgyblion 11-14 oed?
  • Ydych chi’n chwilio am brosiect estynedig neu her ar gyfer clwb?
  • A hoffech chi ennill gwobrau i’ch ysgol?

Er bod triathlon wedi bod yn gamp Olympaidd ers 2000, nid yw paratriathlon wedi ymddangos eto yn y Gemau Paralympaidd. Fel paratoad ar gyfer ymddangosiad posibl y gamp ymhen blynyddoedd, mae Jimmy Goddard, un o un o baradriathletwyr mwyaf blaenllaw’r DU, angen eich help chi i ddod â medal adref!

Mae pumed Her GTPM, a noddir gan GE, yn gofyn i dimau ddylunio siwt wlyb unigryw i Jimmy. Gallai’ch dyluniad chi fod y gwahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant, felly meddyliwch, byddwch greadigol, ac efallai y gall medal Jimmy yn y dyfodol fod yn aur!

Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn timau i gwblhau tasgau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â chwricwlwm D&Th a Gwyddoniaeth am eu cyfle i ennill y brif wobr yn cynnwys offer werth hyd at £1000 i’ch Clwb GTPM.

Mae Heriau GTPM yn agored i bob myfyriwr rhwng 11-14 oed mewn ysgolion gwladol cofrestredig yn y DU. Rhaid i athrawon gofrestru eu timau erbyn 5pm ar 17 Ionawr 2011. Nid oes raid i gynigion fod i mewn erbyn y dyddiad hwn – bydd y cynigion yn cael eu beirniadu mewn sesiwn leol yn ystod Chwefror 2011.

Cofrestrwch nawr!