Croesawodd plant ysgol o Haringey, Gogledd Llundain, yr Olympiad Colin Jackson fel rhan o ddathliadau rhaglen Ysbrydoliaeth Rhyngwladol Llundain 2012.
Colin Jackson yn ymweld â myfyrwyr Haringey!
24 Tach 2010
Colin Jackson yn cysylltu Ysbrydoliaeth Rhyngwladol o Trinidad a Tobago i Haringey.
Mae pum ysgol o Haringey wedi cael eu gefeillio gyda phum ysgol yn Trinidad a Tobago fel rhan o raglen Ysbrydoliaeth Rhyngwladol.
Ysbrydoliaeth Rhyngwladol yw rhaglen gwaddol chwaraeon rhyngwladol swyddogol Llundain 2012, a’i hamcan yw defnyddio grym addysg gorfforol, chwaraeon a chwarae i gyfoethogi bywydau miliynau o blant a phobl ifanc o bob gallu mewn ugain o wledydd ar draws y byd.
Yn Hornsey School for Girls, cyfarfu Colin ag Arweinyddion Ifanc o’r holl ysgolion o Haringey a ddangosodd y sgiliau arwain y maent wedi eu dysgu trwy Ysbrydoliaeth Rhyngwladol.
Cydweithiodd yr Arweinwyr Ifanc hyn i gynnal gŵyl ddawns ysgolion cynradd, gweithdy yn y dosbarth sy’n trafod sut y gellir defnyddio’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd i fynd i’r afael â materion megis tensiynau hiliol, gangiau a ffyrnigrwydd, a hefyd arwain sesiwn griced ar gyfer disgyblion ifanc. Buont hefyd yn siarad â Colin am sut mae Ysbrydoliaeth Rhyngwladol yn eu helpu i weithio mewn partneriaeth gydag ysgolion ar draws y fwrdeistref yn ogystal a gyda’u cyfoedion yn Trinidad a Tobago.
Yn Trinidad a Tobago, gwelodd Jackson sut mae Ysbrydoliaeth Rhyngwladol wedi bod yn defnyddio AG a chwaraeon fel ffordd o fynd i’r afael â materion cymdeithasol, iechyd, economaidd a datblygu, yn cynnwys y defnydd cynyddol o alcohol a chyffuriau gan bobl ifanc, y cynnydd mewn gangiau o ieuenctid a ffyrdd o fyw eisteddog. Gall y rhain, yn ogystal â diffyg mannau diogel i bobl ifanc a seilwaith AG wael, olygu bod cyfleon i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon a chwarae yn gyfyngedig.
Dywedodd Colin Jackson: ‘Mae Ysbrydoliaeth Rhyngwladol yn wirioneddol ryfeddol. Collais gyfrif ar faint o bobl ifanc a gyfarfyddais sy’n cael budd o’r rhaglen ac yn cofleidio chwaraeon. Yn Trinidad a Tobago mae’r rhaglen yn ffordd wych o ysgogi diddordeb ieuenctid a’u cadw’n ddiogel trwy gyfathrebu negeseuon pwysig am HIV a chyffuriau a rhoi iddynt fannau diogel i fwynhau chwaraeon. Mae hefyd wedi gwneud lles i ysgolion a chymunedau yno o ran mynd i’r afael ag absenoliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gan roi gweithgaredd ar ôl ysgol i bobl ifanc sy’n eu cadw oddi ar y strydoedd.
Dywedodd Abigail, Arweinydd Ifanc a Hornsey School for Girls: ‘Mae cael athletwr fel Colin Jackson yn ymweld â‘n ysgol yn wirioneddol gyffrous – yn arbennig oherwydd y gall ddweud wrthym am ei brofiad yn Trinidad a Tobago gyda’n ysgol gyswllt. Trwy Ysbrydoliaeth Rhyngwladol a’n cysylltiad gydag Ysgol Speyside yn Tobago rydym wedi dysgu am sgiliau arwain, datrys anghydfodau a sut i weithio fel tîm. Roeddwn hefyd yn gynrychiolydd Hornsey School yng Ngemau Ysgolion y DU a gweithiais gyda Hakeem Charles o Tobago ar datblygu’n sgiliau arwain fel myfyrwyr.’
Dewch i ddarganfod mwy am Ysbrydoliaeth Rhyngwladol













