• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

A yw plant yn y DU yn cael eu cyffroi gan y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd? Heb os!
2 Tach 2010

Aeth Heather, aelod o dîm marchnata Llundain 2012, i ymweld ag ysgol gynradd Pippins yn Colnbrook.

Cynhaliodd Heather wasanaeth ar gyfer dros 200 o ddisgyblion ynglŷn â‘r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd a masgotiaid Llundain 2012. Yna rhoddodd wahoddiad i fyfyrwyr gymryd rhan yn ein cystadleuaeth ddylunio ‘Bydd Barod i greu dy fasgot .

Darllenwch yr hyn sydd gan Heather i’w ddweud am yr ymweliad:

Ar ôl i’r Dirprwy Bennaeth fy nghyflwyno, sylweddolais yn sydyn fod 200 o wynebau bychain mewn un côr yn dweud ‘P’nawn da, Heather’, ac roedd yn dipyn mwy brawychus na fy ngwaith Marchnata bob dydd! Fodd bynnag, ar ôl dweud fy mod yno i siarad am y Gemau a’r masgotiaid, roedd yr ochneidio a’r synau cyffrous yn fy sicrhau mai hon oedd y gynulleidfa orau y gallwn ddymuno ei chael.

Gan i mi gael fy magu yng nghwmni chwaraeon – yn ei chwarae, ei wylio, ei fyw, ei anadlu, yn y cartref ac yn yr ysgol – roeddwn wrth fy modd yn gweld eu dwylo i gyd yn codi mewn ymateb i fy nghwestiwn ‘pwy yma sy’n hoffi chwaraeon?’ Mae’r athrawon, dan arweiniad yr athro AG Chris, wedi gwneud llawer gyda’r plant i’w dysgu am chwaraeon, hanes y Gemau a’r hyn sydd i ddod fel rhan o Lundain 2012.

Wrth ymateb i bob un o fy nghwestiynnau – Pa mor aml mae’r Gemau yn cael eu cynnal? Ym mha gampau mae athletwyr yn cystadlu yddynt? Ble fyddant yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2012? Pa liw yw’r medalau y mae’r athletwyr sy’n dod yn 1af yn ei ennill? – roedd eu gwybodaeth am y Gemau a’u brwdfrydedd ynglŷn â deall a dysgu mwy yn heintus. Dyma’r math o gyffro yr ydym eisiau ei ysbrydoli mewn plant ar hyd a lled y wlad – ac mae yna 2 flynedd eto i fynd!

Bu rhagor o ochneidio a synau cyffrous pan ymddangosodd yr annwyl Wenlock (masgot Olympaidd Llundain 2012) a Mandeville (masgot Paralympaidd Llundain 2012) o du ôl i fwrdd. Dangosais ffilm y masgotiaid, a bu’r plant yn chwerthin o’u boliau wrth i’r cymeriadau gymryd rhan a rhoi cynnig ar wahanol chwaraeon.

Buom yn trafod y Gwerthoedd Olympaidd – parch, cyfeillgarwch a rhagoriaeth – a’r Gwerthoedd Paralympaidd – penderfyniad, ysbrydoliaeth, dewrder a chydraddoldeb.

Wedi iddynt adael y gwasanaeth mewn rhes drefnus a chwrtais a throi am adref, teimlais wefr y tu mewn i mi, oherwydd rwy’n credu bod eu cyffro nhw’n rhywbeth cyffyrddiadwy. Yn goron ar y cyfan, dywedodd un disgybl Blwyddyn 6 wrthyf: ‘arhoswch yma, mae gen i rywbeth i’w ddangos i chi’... Daeth yn ôl gyda fersiwn pren o fasgot yr oedd wedi ei wneud gartref. Gydag un llygaid fel Wenlock, gwên gellweirus, cylchoedd Olympaidd ar ei fron a Thortsh Olympaidd yn ei law. Nid oeddwn yn gallu credu ei fod yn ei amser ei hun wedi dewis gwneud hyn – gwych!

Fel gwaith cartref, caiff y plant daflenni lliwio i ddylunio eu fersiynau eu hunain o Wenlock a Mandeville i ddangos i’r byd beth sy’n unigryw am eu hysgol Pippins, a’r ardal y maent yn byw ynddo yn Colnbrook; ni allaf ddisgwyl i weld eu syniadau a’u dyluniadau.

Mae’n rhyfeddol gweld sut mae athrawon, fel rhan o Bydd Barod, yn addysgu’r meddyliau ifanc yma ac yn gwneud gwaith mor wych. Bu i ni ennill y cyfle i gynnal y Gemau gan i ni addo ysbrydoli cenhedlaeth newydd o blant i ddewis chwaraeon, ac wrth baratoi at 2012, mae’n deimlad anhygoel gwybod bod pobl allan yna – un tîm mawr, cymuned ar draws y DU – sy’n ein helpu i danio diddoredeb plant ac i baratoi ar gyfer y sioe orau ar wyneb y ddaear yn 2012.