Aeth dwy ysgol sy'n rhan o rwydwaith Bydd Barod i lansiad menter Fferm Agored McDonalds i ganfod sut maent yn paratoi i'n bwydo i gyd yn 2012!
Rhwydwaith Bydd Barod yn dysgu am y cynlluniau i'n bwydo yn 2012!
28 Mai 2010
Oeddech chi’n gwybod?
Caiff MacDonalds gefnogaeth mwy na 17500 o ffermwyr Prydeinig sy’n darparu’r cynhwysion ar gyfer mwy na 55% o’u holl fwydlen?
Daw eu HOLL gig eidion, cig moch, llefrith a wyau o Brydain ac Iwerddon, a chaiff pob cynnyrch o’r fferm i’r cownter ei olrhain a’i dracio.
A nawr mae MacDonalds yn agor y giatiau i rai o’r 17500 o’r ffermydd hyn er mwyn dangos i’r cyhoedd sut fyddant yn chwarae rhan mewn cyflenwi miloedd o brydau bwyd yng Ngemau Olympaidd 2012.
Rhwydwaith Bydd Barod yn darganfod mwy
Mynychodd Charlton Manor Primary School a Greenslade Primary School, sy’n aelodau o rwydwaith Bydd Barod, lansiad y fenter Fferm Agored i ddysgu mwy amdani.
Dewch i ddarllen adroddiadau gan rai o’r myfyrwyr:
Llundain 2012: beth sydd i frecwast, cinio a swper? Gan Lucy (Greenslade Primary School)
Roedd dydd Mawrth 18 Mai yn ddiwrnod lwcus i saith o blant Greensdale, gafodd wahoddiad i’r Parc Olympaidd i weld lansiad y wasg McDonalds o’u menter Ffermydd Agored Prydain.
Cyn gyted ag y cyrhaeddodd y plant, roedd gwaith yn galw ar unwaith mewn sesiwn tynnu lluniau. Roeddent hyd yn oed yn ddigon lwcus o gael eu lluniau wedi eu tynnu gyda dau fydd yn cystadlu yn y Gemau – y gymnastwraig sydd wedi ennill medal aur, Beth Tweddle, a chleddyfwraig o’r enw Katherine Kempe, yn ogystal â pherchnogion ffermydd, penaethiaid McDonalds a hyd yn oed yr Arglwydd Sebastian Coe. Er gwaetha gwaith caled y plant, yr unig beth y gofynnon nhw yn gyfnewid oedd llofnod yr enwogion.
Nesa, cafodd y plant lwcus wahoddiad i fynychu cynhadledd y wasg, ynghyd â newyddiadurwyr o bapurau newydd blaenllaw. Yma, rhoddwyd y plant o Greensdale i eistedd yn y rhes flaen er mwyn clywed yn union beth oedd gan y siaradwyr i’w ddweud yn cynnwys Sebastian Coe. Mae Sebastian yn gwybod pa mor bwysig yw bwyd i Brydain gan ychwanegu. ‘Mae angen i ni ddangos rhinweddau Prydain y gellir eu dangos hefyd yn ein bwyd.’
Bydd tunelli o fwyd o ffermydd Prydain yn cael ei fwyta gan lawer o bobl yn ystod Gemau Llundain 2012.
Y symiau’n fras yw 300 tunnell o ffrwythau a llysiau, 19 tunnell o wyau a 232 tunnell o datws a bron ddwywaith cymaint o gig eidion. Roedd hyn yn syndod mawr i ddisgyblion Greensdale.
Mae McDonalds yn un o nifer o noddwyr y Gemau Olympaidd, ac maent yn gobeithio gwneud eu gorau i fwydo’r miloedd o bobl sydd yn ymwneud â gemau 2012. Nawr maent yn dymuno cynnal safon bwyd McDonalds yn barhaol ond nid ydynt am wneud newidiadau mawr i’r tai bwyta yn benodol ar gyfer y Gemau Olympaidd.
Mae Steve Easterbrook yn noddwr balch iawn i’r Gemau Olympaidd, ac fel y dywed, ‘Rhestr siopa fer ond trol fawr i’w llenwi.’
Cafodd Gaurab, sydd hefyd o Greensdale Primary, gyfle i gyfweld un o’r ffermwyr. Gofynnodd i Hazel Hoskin:
‘Faint o wartheg sydd gennych?’ Atebodd ‘Rhwng 700-800 o wartheg.’ Ychwanegodd bod 30 buwch y mis yn cael eu gwerthu, felly gwerthir 360 bob blwyddyn.’













