• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Lansio Awn i Goginio o Gwmpas y Byd!
26 Mai 2010

Heddiw, cynhaliodd aelod o rwydwaith Bydd Barod, Eldon Junior School yng Ngogledd Llundain, ddigwyddiad arbennig i lansio ‘Awn i Goginio o Gwmpas y Byd’. Dysgodd myfyrwyr Bortiwgaleg wrth wneud smwddis mango a banana o Frasil gyda’r pencampwyr Olympaidd Jonathan Edwards a Frances Houghton.

Mae ‘Awn i Goginio o Gwmpas y Byd’ yn rhan o Bydd Barod+ ac mae’n ffordd hwyliog o ddysgu ieithoedd wrth baratoi bwyd blasus o wahanol wledydd sy’n gysylltiedig â‘r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Gallech ddysgu Hindi tra’n coginio Rogan Josh Cyw Iâr, Ffrangeg wrth wneud Cawl Pwmpen o Ganada, neu Sbaeneg wrth baratoi Chilli Llysieuol o Fecsico!

Dywedodd Disgybl Blwyddyn 4 o Eldon Junior School: “Roeddem wrth ein bodd yn gwneud smwddis gyda Jonathan Edwards, cawsom ddysgu Portiwgaleg yn un pryd a dangosodd ei fedalau i ni hefyd! Mae’n ffordd hwyliog o ddysgu am y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd, roedd yn wers wirioneddol wych.”

Dywedodd Jonathan Edwards: “Mae datblygu sgiliau iaith yn arbennig o bwysig wrth i ni baratoi i groesawu’r byd i’r Gemau yn 2012. Mae cynnal y Gemau yn rhoi cyfle rhagorol i ni ddefnyddio’r cysylltiadau gyda’r 205 o wledydd sy’n cystadlu er mwyn ysbrydoli pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau iaith. Mae ‘Awn i Goginio o Gwmpas y Byd’ yn mynd â‘r cyfle hwnnw gam ymhellach trwy ymgorffori coginio a bwyta’n iach mewn rhaglen gyffrous fydd yn sicr o wneud dysgu ieithoedd yn hwyl ac yn sbardun i’r myfyrwyr.”

Arweinir y prosiect gan yr Ymddiriedolaeth Bwyd Ysgol ac mae’r holl rysetiau ar gael i’w lawrlwytho am ddim .