Masgotiaid Llundain 2012, Wenlock a Mandeville, yn cael eu lansio i'r byd!
Cyfle i gyfarfod Wenlock a Mandeville!
19 Mai 2010
Heddiw, mae Wenlock a Mandeville, masgotiaid Llundain 2012, wedi cychwyn ar eu taith o gwmpas y DU, gan gyfarfod â phobl newydd, yn gwneud ffrindiau newydd ac yn rhoi cynnig ar chwaraeon newydd.
Crewyd Wenlock a Mandeville o’r diferion olaf o ddur oedd ar ôl pan gynhyrchwyd y trawst cynnal olaf ar gyfer y Stadiwm Olympaidd. Mae ffilm animeiddiedig, yn seiliedig ar stori gan yr awdur plant Michael Morpurgo, yn dangos sut y rhoddwyd bywyd i’r cymeriadau a sut maent yn gallu adlewyrchu ac addasu i’w hamgylchfyd, yn newid eu hedrychiad yn ôl yr amgylchiadau.
Bydd Wenlock a Mandeville nawr yn mynd ar deithiau ar wahân, yn aml bydd eu llwybrau’n croesi a byddant yn cyfarfod â phobl ar hyd a lled y DU gan eu hysbrydoli i ddewis chwaraeon wrth iddynt anelu am Gemau Paralympaidd Llundain 2012.
Mae gan Wenlock a Mandeville nifer o nodweddion dylunio unigryw yn cynnwys goleuadau melyn ar eu pennau, a ysbrydolwyd gan dacsis duon eiconig Llundain; mae Wenlock yn gwisgo bandiau cyfeillgarwch mewn lliwiau’r cylchoedd Olympaidd ac mae Mandeville yn gwisgo dyfais amseru i gofnodi ei amser gorau. Camera yw’r unig lygaid sydd gan y ddau fasgot, fydd yn cofnodi’r bobl fyddant yn eu cyfarfod, y mannau y byddant yn ymweld â hwy, a’r chwaraeon y byddant yn rhoi cynnig arnynt ar y daith i 2012.
Rhowch gynnig ar ein cystadleuaeth a gallai Wenlock neu Mandeville ymweld â‘ch ysgol neu’ch cymuned chi!
Lawrlwythwch adnoddau Bydd Barod fydd yn help i chi adnabod Wenlock a Mandeville yn well!
Gallwch ddilyn eu taith a rhyngweithio â hwynt trwy eu gwefan yn www.london2012.com/mascots a’u safleoedd Twitter a Facebook eu hunain.













