• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

99 diwrnod ar ôl hyd at gychwyn Gemau Olympaidd Ieuenctid Singapore!
7 Mai 2010

Yn dilyn y dathliadau ar hyd a lled Singapore, mae’r byd yn gwybod bod y ddinas yn barod ar gyfer y Gemau Olympaidd Ieuenctid (GOI) gaiff eu cynnal ar 14 – 26 Awst 2010.

Bydd 3600 o athletwyr 14-16 oed o bob cwr o’r byd yn dod at ei gilydd i arddangos eu doniau wrth iddynt gystadlu mewn 201 o gystadlaethau yn y 26 camp Olympaidd.

Nodwyd bod 99 diwrnod ar ôl drwy ddadorchuddio cynlluniau dillad a gwisgoedd yr holl bobl sy’n cyfranu at y gemau ieuenctid, o gystadleuwyr i wirfoddolwyr a chyflwynwyr. Roedd y *SCAPE Youth Space hynod drawiadol sydd newydd ei agor yn llawn bwrlwm a gweithgareddau Singapore 2010 yn cynnwys cystadleuaeth pêl-fasged 3 yn erbyn 3, blas ar chwaraeon, gemau a pherfformiadau.

Mae’r GOI yn amcanu at ysbrydoli pobl ifanc ar draws y byd i gofleidio, ymgorffori a mynegi’r Gwerthoedd Olympaidd o ran rhagoriaeth, cyfeillgarwch a pharch.

Mae’r Gemau hefyd yn amcanu at dynu sylw at faterion megis ffyrdd o fyw’n iach a’r frwydr yn erbyn cyffuriau, trwy annog athletwyr i gymryd rhan mewn Rhaglen Diwylliant ac Addysg lle byddant yn canolbwyntio ar bum thema allweddol: Olympiaeth, Datblygu Sgiliau, Hunan-les a Fyrdd o Fyw’n Iach, Cyfrifoldeb Cymdeithasol a Mynegiant.

Mae trefnu’r seremonïau agor a chloi hefyd yn mynd rhagddo – bydd y ddwy yn cael eu cynnal ar y platfform mwyaf yn y byd sydd ar ddŵr – Y Float@Marina Bay.

Bydd tîm Prydain ar gyfer y Gemau yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf a gallwch chi fod yn rhan o hynny trwy fynd i www.singapore2010Odyssey.sg lle gallwch greu avatar ac archwilio’r Singapore 2010 Odyssey Virtual World.

Dewch i ddarganfod mwy