• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Ysgolion Greenwich yn ymuno â'r rhwydwaith ac yn cymryd rhan yn Sioe Deithiol Her Masnachu BP
11 Maw 2010

Mae dwy ysgol arall o Greenwich wedi ymuno â rhwydwaith Bydd Barod ac wedi cymryd rhan yn Sioe Deithiol Her Masnachu BP.

Bu disgyblion ac athrawon ysgolion John Roan ac Eltham Green yn dathlu heddiw pan y’u croesawyd yn swyddogol i rwydwaith Bydd Barod, fel cydnabydiaeth o’u hymrwymiad i’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Maent yn ymuno â bron i 200 o ysgolion a cholegau eraill ar draws y DU fel aelodau o gymuned arbennig Llundain 2012, a byddant yn cael yr hawl i ddefnyddio logo addysg Llundain 2012 yn ogystal â chael mynediad at gystadlaethau egsglwsif a chyfleoedd mewn pethynas â 2012 yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Dywedodd Paul Deighton, Prif Weithredwr Pwyllgor Trefnu Llundain 2012, a gyflwynodd y placiau a’r tystysgrifau i’r ysgolion:

‘Mae myfyrwyr yn John Roan ac Eltham Green yn enghreifftiau rhagorol o sut mae Llundain 2012 yn helpu i sbarduno dychymyg pobl ifanc ac yn eu hysbrydoli i gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth. Maent wedi dangos yn amlwg bod rhaglen addysg Llundain 2012 yn ymestyn ymhell y tu hwnt i AG a chwaraeon ac rwy’n gobeithio y byddant yn cymell pobl ifanc eraill i ymuno â hwy ar eu taith.’

Yn ogystal â derbyn eu placiau a’u tystysgrifau, bu’r ysgolion o Greenwich hefyd yn cymryd rhan yn Sioe Deithiol Her Masnachu BP, sef adnodd newydd ar gyfer rhai 14-19 oed sy’n datblygu sgiliau gwaith tîm, penderfynu a chyfathrebu disgyblion.

Ymunodd Paul Deighton â‘r myfyrwyr yn ystod y sesiwn garlam ryngweithiol wrth iddynt fasnachu olew, ymateb i newyddion y farchnad drwy gyfrwng ffilmiau, a rheoli cyllideb tra’n cystadlu mewn timau. Mae’r sioe deithiol yn rhoi i’r myfyrwyr flas o’r byd busnes cystadleuol tra’n ystyried rhai o’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Mae BP wedi gwneud ymrwymiad i fynd â Sioe Deithiol Her Masnachu BP i bob awdurdod lleol ar draws y DU cyn dechrau’r Gemau.

Dewch i ddarganfod mwy am Sioe Deithiol Her Masnachu BP a chyfleoedd menter eraill sydd ar gael drwy Bydd Barod +