Gall cynhyrchwyr ffilmiau ifanc weld eu gwaith ar sgriniau Live Sites ac yn lleoliadau eiconig Llundain 2012 trwy Film Nation: Shorts, cystadleuaeth newydd ar gyfer y DU gyfan.
Cyfle i weld eich ffilm ar sgriniau lleoliadau Llundain 2012!
22 Maw 2010
Daeth y sêr ffilmiau Prydeinig, Nicholas Hoult, Georgia Groome, a Thomas Sangster at ei gilydd i lansio’r gystadleuaeth gyffrous hon fydd yn gwahodd rhai 11-25 oed o bob cwr o’r DU i gyflwyno ffilmiau bychain i ddathlu’r Gwerthoedd Olympaidd, sef cyfeillgarwch, parch a rhagoriaeth, a’r Gwerthoedd Paralympaidd, sef dewrder, cydraddoldeb, penderfyniad ac ysbrydoliaeth.
Gall cynigion fod o unrhyw genre ffilm – dogfen, drama, animeiddio… a bydd y gwaith gorau yn cael cynulleidfa o filoedd gan ei bydd yn cael ei dangos i dorfeydd mewn lleoliadau yn ystod Gemau 2012, ac ar sgriniau Live Site anferthol ar hyd a lled y DU, ar wefan Llundain 2012, ac ar wefan benodol Film Nation!
A hyd yn oed yn well, nid cystadleuaeth yn unig yw hon; bydd rhaglen o weithdai am ddim yn cael ei chynnal ar hyd a lled y DU fel bod gan bobl ifanc gyfle i ddysgu gan bobl proffesiynnol a defnyddio offer diweddaraf o’r radd flaenaf gan Panasonic.
Os oes gennych eisoes sgiliau cynhyrchu ffilmiau, pam nad ewch ati i gychwyn ar eich ffilm nawr – gellir cyflwyno cynigion o fis Mehefin!
Film Nation: Mae Shorts yn rhan o Diwylliant a Chreadigrwydd Bydd Barod +.













