• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Y masgotiaid yn parhau â'u taith o gwmpas y DU!
28 Meh 2010

Ymwelodd y masgot Olympaidd, Wenlock, â Dundonald Primary School yr wythnos diwethaf! Enillodd yr ysgol y cyfle ar ôl ailwampio’i diwrnod chwaraeon i ymgorffori’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd a gwneud y diwrnod yn fwy cynhwysol. Roedd myfyrwyr yn cael eu cydnabod am ddangos unrhyw un o’r Gwerthoedd, nid am ennill y ras yn unig, gan ennill pwyntiau i’w Tai.

Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd pob ysgol enillodd ymweliad gan un o fasgotiaid Llundain 2012 drwy gystadleuaeth ‘Bydd Barod i gyfarfod y masgotiaid’ yn cael cyfle i gyfarfod â Wenlock neu Mandeville.

Yn Dundonald Primary, ymunodd Wenlock â gwasanaeth yr ysgol gyfan gan gyflwyno i’r myfyrwyr dystysgrifau Gwerthoedd am fyw yn ôl un neu ragor o’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd yn ystod y diwrnod chwaraeon.

Byddant hefyd yn cymryd rhan mewn gwyliau chwaraeon, yn dysgu jwdo, criced, yn cefnogi perfformwyr dawns, yn gwneud llawer o ffrindiau newydd a llawer mwy, wrth iddynt ymweld â chymunedau ar hyd a lled y DU!

Gallwch ddilyn eu taith yn london2012.com/mascots . A gallwch fod yn ffrind iddynt ar Facebook a’u dilyn ar Twitter hefyd!

Ceisiwch wybod pryd fydd y masgotiaid yn ymweld ag ysgol yn eich ardal chi.

Cofiwch, ceir llawer o adnoddau gwych ar Bydd Barod i’ch helpu i’w hadnabod yn well!