• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB yn cychwyn!
29 Meh 2010

Yr wythnos hon, mae bron i 14,000 o ysgolion yng Nghymru a Lloegr yn cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB – sef tua 5 miliwn o blant a phobl ifanc!

Cychwynodd yr Wythnos ar ddydd Llun 28 Mehefin gyda nifer o ysgolion yn cynnal seremonïau agor a chloi, eraill yn cynnal teithiau cyfnewid tortsh a chystadlaethau mewnol neu rhyng-ysgolion, yn gweithio o fewn eu Partneriaeth Chwaraeon Ysgol ac yn gwahodd clybiau lleol i roi sesiynnau blasu mewn amrywiol gampau Olympaidd a Pharalympaidd.

Heddiw, ymunodd Enillwyr Medal Aur Olympaidd Sir Chris Hoy a Jonathan Edwards â phlant ysgol yn Eltham Green Specialist Sports College – coleg gyda 350 o ddisgyblion o ysgolion yn Ne Ddwyrain Llundain – i ddathlu Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB eleni. Cymerodd y plant ran mewn digwyddiad Gŵyl Chwaraeon gan roi cynnig ar amryw o chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd, yn cynnwys tennis, pêl-law a badminton gyda’r Enillwyr Medalau Aur Olympaidd.

“Mae cynnal Gemau Llundain 2012 ym Mhrydain yn rhoi i ni bob math o gyfleon i gyflwyno chwaraeon newydd a chyffrous i bobl ifanc. Mae digwyddiadau fel Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol yn ffyrdd gwych gan eu bod yn rhoi cyfle i blant ysgol gymryd rhan mewn camp Olympaidd neu Baralympaidd am y tro cyntaf. Rhoddais gynnig ar amryw o wahanol gampau yn yr ysgol cyn i mi ganfod rhywbeth yr oeddwn yn ei garu, ac rwyf yn gobeithio y gallwn drwy ddigwyddiadau fel y rhain annog mwy o blant i gymryd rhan mewn chwaraeon.” meddai Enillydd Medal Aur Olympaidd, Sir Chris Hoy.

Ar ddiwedd yr wythnos am 12.20pm ar ddydd Gwener 2 Gorffennaf, bydd disgyblion o Bartneriaeth Chwaraeon Ysgol Eltham Green yn ymuno â miliynau o bobl ifanc eraill ar hyd a lled y wlad mewn arddangosfa chwaraeon dau funud, gan ddathlu’r gamp newydd y bu iddynt roi cynnig arni yn ystod yr wythnos.

Mae Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB yn rhan o thema AG a chwaraeon Bydd Barod + ac mae Llundain 2012 yn awyddus i wobrwyo pob ysgol sydd wedi cymryd rhan yn yr Wythnos drwy rwydwaith Bydd Barod .

Mae Eltham Green Specialist Sports College yn aelod o rwydwaith Bydd Barod – cynllun gwobrwyo a chydnabod Llundain 2012 ar gyfer y gymuned weithgar o ysgolion a cholegau ar hyd a lled y DU sy’n dangos ymrwymiad i fyw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.
Trwy ei hymaelodaeth â rhwydwaith Bydd Barod, mae Eltham Green wedi ennill yr hawl i ddefnyddio logo addysg Llundain 2012, a mynediad blaenoriaethol i’r gwobrau a chyfleon mwyaf egsglwsif.

Dewch i ganfod mwy am rwydwaith Bydd Barod
Dewch i ddarganfod mwy am Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB
Dewch i gael eich ysbrydoli gan brofiadau myfyrwyr o’r Wythnos hyd yma