• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Bank of Scotland
7 Meh 2010

Mae dros 700 o ysgolion ar hyd a lled Yr Alban yn cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Bank of Scotland!

Cafwyd help gan Sir Chris Hoy i lansio’r digwyddiad yng Nghaeredin heddiw, a chyfarfu â dros 600 o blant o naw ysgol yng Nghaeredin gymrodd ran mewn amryw o weithgareddau, o lwyfanu Seremoni Agor i athletau, tenis, pêl-droed a Milltir Rhieni.

Mae Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Bank of Scotland, a gynhelir mewn partneriaeth â sportscotland – yr asiantaeth chwaraeon genedlaethol, a rhan o Bydd Barod + , yn cael ei chynnal rhwng y 7fed a’r 11eg o Fehefin 2010.

Gan ddefnyddio grym Llundain 2012, mae’r rhaglen yn manteisio i’r eithaf ar frwdfrydedd ac awch pobl ifanc gaiff eu hysbrydoli gan Lundain 2012 i gymryd rhan mewn mwy o chwaraeon.

Mae gwaith ymchwil a ryddhawyd heddiw gan Bank of Scotland yn dangos bod 84% o’r plant a holwyd ar hyd a lled Yr Alban wedi dweud y buasent yn hoffi gweld eu hysgolion yn cynnal dosbarthiadau neu sesiynnau lle gallant roi cynnig ar rai campau Olympaidd neu Baralympaidd nad ydynt wedi rhoi cynnig arnynt o’r blaen. Bydd plant yn cael eu hannog i roi cynnig ar gamp Olympaidd neu Baralympaidd nad ydynt wedi ei brofi o’r blaen. Dywedodd 57% y bydd cael y Gemau nesaf yn eu gwlad eu hunain yn eu hysbrydoli i gymryd rhan mewn mwy o chwaraeon.

Cofiwch, os ydych yn cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Bank of Scotland, rhowch wybod i ni am yr hyn y buoch yn ei wneud ar eich blog Bydd Barod !

Am fwy o wybodaeth am Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Bank of Scotland, ewch i www.schoolsportweekscotland.org