Agorodd cystadleuaeth ffilm fer Llundain 2012 ar gyfer pobl ifanc ar 23 Mehefin 2010
Film Nation: Shorts - nawr yn agored i gystadleuwyr!
30 Meh 2010
Film Nation: Shorts – nawr yn agored i gystadleuwyr
Agorodd cystadleuaeth ffilm fer Llundain 2012 ar gyfer pobl ifanc ar 23 Mehefin 2010. Bu i’r wefan ryngweithiol lle gellir lanlwytho ffilmiau, eu gweld a rhoi sylwadau arnynt ddod yn fyw am hanner dydd 23 Mehefin yn www.filmnation.org.uk – felly nawr gallwch fewngofnodi i wylio a phleidleisio dros eich hoff ffilm. Mae yno hefyd wybodaeth am y gweithdai Llundain 2012 cyntaf fydd yn rhannu sgiliau cynhyrchu ffilmiau byrion.
Mae rownd gyntaf Film Nation nawr yn agored i bobl ifanc rhwng 14 – 25, gyda gwobrau ar gael i’r ffilm gaiff y nifer mwyaf o bleidleisiau bob mis gan wylwyr. Dyddiad cau rownd gyntaf Film Nation: Shorts yw 1 Hydref, gyda seremoni wobrwyo carped coch llawn sêr yn digwydd fis Rhagfyr 2010. Yn 2012 bydd ffilmiau gorau’r rhaglen ddwy flynedd yn ennill y cyfle i gael eu dangos mewn lleoliadau chwaraeon eiconig yn ystod y Gemau yn 2012 yn ogystal â mewn digwyddiadau proffil uchel o gwmpas y wlad.
I weld ffilmiau, canfod ffefryn, a lanlwytho’ch ffilm er mwyn ei rhannu â‘ch ffrindiau, ewch i www.filmnation.org.uk













