• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Bydd Barod i ymweld â'r Parc Olympaidd!
7 Meh 2010

Enillodd 60 aelod o rwydwaith Bydd Barod deithiau i’r Parc Olympaidd fel rhan o raffl fawr arbennig a gynhaliwyd yn egsglwsif i aelodau’r rhwydwaith.

Mae rhwydwaith Bydd Barod yn gymuned weithgar o ysgolion a cholegau ar hyd a lled y DU sy’n dangos ymrwymiad i’r Gwerthoedd Olympaidd o ran cyfeillgarwch, rhagoriaeth a pharch, a’r Gwerthoedd Paralympaidd o ran dewrder, penderfyniad, cydraddoldeb ac ysbrydoliaeth.

Gwelodd myfyrwyr â‘u llygaid eu hunain y gwaith sy’n mynd yn ei flaen ar Barc Olympaidd Llundain, ble fydd y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn cael eu cynnal yn 2012.

Fel rhan o’r daith gwelwyd y prif leoliadau yn cael eu hadeiladu gan yr Olympic Delivery Authority (ODA) yn cynnwys y Stadiwm Olympaidd, Canolfan Chwaraeon Dŵr, Felodrom, a’r Arena Pêl-law, gan ddysgu hefyd am y rhaglenni amgylcheddol a chymunedol gaiff eu cynnal yn y Parc Olympaidd.

Cafwyd cyfle hefyd i gael llun grŵp wedi ei dynnu ar y Greenway gyda’r Stadiwm Olympaidd yn y cefndir!

Dywedodd Becky o East Norfolk Playing for Success Centre o Cliff Park High School yn Gorlestone: ‘Rwyf mor falch o fy ysgol a fy nghanolfan. Rwyf mor ffodus o gael cyfle fel hwn, ac o gael bod yn y Parc Olympaidd yng nghanol paratoadau’r Gemau! Roedd yn ddiwrnod y byddwn yn ei gofio am weddill ein hoes!’

Os ydych eisiau cael y cyfle i ennill taith i’r Parc Olympaidd i’ch ysgol neu goleg, gwnewch gais i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod heddiw!