Ymwelodd Syr Chris Hoy â Hartford High yn Sir Caer i ddathlu'r gwaith a wnânt fel rhan o'u gwaith Ysbrydoliaeth Ryngwladol a'u partneriaeth gydag ysgol ym Malaysia.
Syr Chris Hoy yn ymweld â Hartford High i ddathlu eu rhaglen Ysbrydoliaeth Ryngwladol
7 Gor 2010
Mae’r pencampwr Olympaidd bedair gwaith Syr Chris Hoy wedi ymweld â myfyrwyr Hartford High School yn Sir Caer, er mwyn rhoi annogaeth i’w cyfranogaeth mewn Ysbrydoliaeth Ryngwladol , rhaglen gwaddol rhyngwladol Llundain 2012.
Mae Hartford High School wedi ei chysylltu ag Ysgol SMK Raja Permaisuri Bainun ym Malaysia trwy raglen Ysbrydoliaeth Ryngwladol ac mae’r bartneriaeth yn darparu cyfleon cyffrous i bobl ifanc o’r ddwy wlad ddysgu am ddiwylliant a phrofiadau chwaraeon ei gilydd.
Cyfarfu Chris â myfyrwyr rhwng 11 ac 16 oed sydd wedi derbyn hyfforddiant arbennig ac sydd bellach yn cynrychioli eu cyd-ddisgyblion fel Arweinwyr Ifanc yn yr ysgol ac yn eu cymunedau lleol. Gan iddo ymweld â Malaysia ar gyfer ei Gemau Cymanwlad cyntaf ym 1998, roedd Chris yn gallu rhannu ei brofiadau o’r wlad gyda’r Arweinwyr Ifanc, yn ogystal ag egluro pam ei fod mor ymrwymedig i gefnogi Ysbrydoliaeth Ryngwladol .
Wrth gyfeirio at ei rôl fel Llysgenad Ysbrydoliaeth Ryngwladol dywedodd Syr Chris Hoy: ‘Mae’n fraint enfawr cael cefnogi Ysbrydoliaeth Ryngwladol , sy’n anelu at ddefnyddio chwaraeon i newid bywydau 12 miliwn o blant mewn 20 o wledydd o gwmpas y byd. Mae cyfarfod yr Arweinwyr Ifanc o Hartford High School wedi dangos i mi sut mae’r rhaglen nid yn unig yn cael dylanwad anhygoel dramor, ond hefyd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc yn y DU.’
Wedi i grŵp o athrawon o Hartford High School ymweld â Malaysia rhwng 27 Chwefror a 6 Mawrth, mae myfyrwyr wedi mabwysiadu’r gêm o Falaysia, Sepak Takraw, fel rhan o’u cwricwlwm AG, yn gyfnewid am gyflwyno’r gêm Brydeinig, Rownderi, i’w cyfoedion o Falaysia. Nawr mae Arweinwyr Ifanc yn ymwneud â threfnu gemau Sepak Takraw yn yr ysgol ac yn eu cymunedau lleol.
Dywedodd Lydia, myfyrwraig 14 oed yn yr ysgol: ‘Mae bod yn rhan o Ysbrydoliaeth Ryngwladol wedi bod yn ffordd ragorol o gael profiad o ddiwylliant sy’n wahanol i’n un ni ein hunain.’
Dywedodd Seb Coe, Cadeirydd Pwyllgor Trefnu’r Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn Llundain: ‘Ein gweledigaeth i ddefnyddio’r Gemau i ysbrydoli newid parhaol a newid bywydau yw’r gwynt yn hwyliau ein cynlluniau. Aethom ag addewid clir i Singapore – annog ieuenctid y byd i ddewis chwaraeon – ac mae cyfranogiad Hartford High School yn gam allweddol arall tuag at gyflawni’r addewid hwnnw. Gall chwaraeon fod yn rym rhagorol dros ddaioni, a bydd rhaglen Ysbrydoliaeth Ryngwladol yn chwarae rôl wirioneddol ym mywydau pobl ifanc dros y byd trwy gyfrwng chwaraeon.’
Dewch i weld sut y cofnodwyd y digwyddiad gan Adroddiad Ysgolion Newyddion y BBC













