• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Partneriaeth Chwaraeon Ysgol Macclesfield -‘On yoUR Marks, Get Set, Go’
27 Gor 2010

Mae Llysgenhadon Ifanc PChY Macclesfield wedi ennill Gwobr Ranbarthol Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid am y prosiect dyfeisgar o’r enw ‘On yoUR Marks, Get Set, Go.’

Mae’r prosiect tair blynedd hwn, a drefnir ac a gyflwynir gan Lysgenhadon Ifanc Partneriaeth Chwaraeon Ysgol Macclesfield, yn anelu at:
Ddenu mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol wythnosol rheolaidd
Codi ymwybyddiaeth o Lundain 2012
Codi ymwybyddiaeth o’r Gwerthoedd Olympaidd (Parch, Cyfeillgarwch a Rhagoriaeth) a’r Gwerthoedd Paralympaidd (Penderfyniad, Dewrder, Cydraddoldeb ac Ysbrydoliaeth)

Lansiwyd y prosiect gan y Llysgenhadon Ifanc yn Wilmslow High School a rhoddwyd gwahoddiad i bobl bwysig yn cynnwys Maer a Maeres Dwyrain Sir Caer, David Rutley AS Macclesfield a Donna Hartley MBE, sy’n Llysgennad PChY Macclesfield.

Rhoddodd y Llysgenhadon Ifanc wahoddiad hefyd i 7 Pencampwr Chwaraeon a dreuliodd y diwrnod yn ymweld â dros 45 o ysgolion a 8000 o bobl ifanc ar draws PChY Macclesfield er mwyn annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol a’u hysbrydoli i wneud eu gorau. Y Pencampwyr Chwaraeon oedd Chris Cook, Alex Danson, Jenna Downing, Craig Heap, Tim Prendergast, Kerry Jane Williams ac Adam Whitehead.

Fel rhan o’r prosiect rhoddod y LlI gychwyn ar y gweithgaredd dawnsio OnyoURMarks@20past12 ac fe gymerodd dros 8,000 o bobl ifanc ran ym Macclesfield yn unig.

Mae’r Prosiect 20 wedi 12 yn Fenter Genedlaethol Llysgenhadon Ifanc/Partneriaeth Chwaraeon Ysgol Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid a ddigwyddodd ym mhob ysgol ar draws y wlad ar Orffennaf 2il am 20 wedi 12. Roedd hyn yn rhan o Wythnos Chwaraeon Ysgol Genedlaethol a noddir gan Fanc Lloyds TSB. Y nod oedd cynyddu cyfranogiad mewn gweithgaredd corfforol a chodi ymwybyddiaeth o Lundain 2012. Cymerodd tua 6 miliwn o bobl ifanc ran mewn gweithgaredd bryd hynny.