Kelly Holmes yn canmol plant ysgol sy'n graddio o Griw Adeiladu'r Parc Olympaidd
Kelly Holmes yn cyfarfod â Chriw Adeiladu 2010!
21 Gor 2010
Mae enillydd Medal Aur Olympaidd Dwbl, y Fonesig Kelly Holmes, wedi canmol ymroddiad ac arweiniad 40 aelod o Griw Adeiladu’r Parc Olympaidd yn eu seremoni raddio yr wythnos hon. Yn gwmni iddynt yn y digwyddiad roedd 20 o raddedigion blaenorol a 40 o blant ysgolion cynradd bwrdeistrefi cynnal y Parc Olympaidd fydd yn ffurfio’r Criw Adeiladu nesaf ym mis Medi ac a fydd yn nodi’r garreg filltir bod 100 o blant lleol wedi ymwneud â‘r prosiect ers 2008.
Mae bod yn rhan o’r Criw Adeiladu yn cynnig cyfleon i’r disgyblion weld â‘u llygaid eu hunain y cynnydd a wneir ar safle’r Parc Olympaidd, a chymryd rhan mewn gweithdai i hyrwyddo arweiniad, cyfrifoldeb a sgiliau cyflwyno. Trwy’r ymweliadau a’r gweithdai hyn cânt eu hannog i fynd â‘u sgiliau a’u gwybodaeth newydd gyda hwy yn ôl i’w hysgolion a chyflwyno’r wybodaeth hon i’w cyfoedion trwy gyrwng cylchlythyrau ysgol, tudalennau we, arddangosfeydd, gweithdai a digwyddiadau cymunedol.
Ochr yn ochr ag ymweliadau rheolaidd â safle adeiladu’r Parc Olympaidd a chyfarfodydd gyda’r timau prosiect, mae aelodau’r Criw Adeiladu wedi helpu i gychwyn plannu yn y gwlyptir ac wedi trafod y prosiect gyda’r Frenhines, Arlywydd De Affrica, Y Gweinidog Chwaraeon a’r Gemau Olympaidd Hugh Robertson a Maer Llundain Boris Johnson.
Daw’r Criw Adeiladu o ysgolion y Bwrdeistrefi Cynnal – Hackney, Newham, Waltham Forest, Tower Hamlets a Greenwich – a enwebir yn unigol i fod yn aelodau.
Dywedodd Prif Weithredwr ODA David Higgins: “Mae bod yn rhan o’r Criw Adeiladu yn gyfle anhygoel i bobl ifanc sy’n byw yn uniongyrchol o gwmpas y Parc Olympaidd i weld trwy’u llygaid eu hunain beth yw maint a chyflymder y newid sy’n digwydd ac i helpu eu datblygiad personol. Mae’n wych gweld pobl ifanc yn cymryd diddordeb mawr yn eu cymunedau, y Gemau ac mewn datblygu eu sgiliau arwain. O ganlyniad i’r blas hwn o gyfleon gyrfa mewn adeiladu ac adfywio gall y Criw Adeiladu fod y genhedlaeth nesaf o beirianyddion, penseiri a syrfewyr.”
Dywedodd y Fonesig Kelly Holmes: “Mae’r Criw Adeiladu yn enghraifft arall o sut y gall Llundain 2012 gymell ac ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan a datblygu eu potensial. Mae’n syndod gweld sut mae’r Criw Adeliadu wedi herio a gwthio’u hunain ac wedi dysgu sgiliau newydd hanfodol.”
“Ceir y newyddion diweddaraf o Bencadlys Llundain 2012 ar ein blog (Ceir y newyddion diweddaraf o Bencadlys Llundain 2012 ar ein blog)”: http://blog.london2012.com http://blog.london2012.com













