• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Grantiau o £500 ar gael ar gyfer gweithgareddau dinasyddiaeth sy'n gysylltiedig â'r Gemau!
22 Ion 2010

Mae grantiau o hyd at £500 ar gael i ysgolion cynradd ac uwchradd yn Lloegr i ddatblygu gweithgareddau sy’n gysylltiedig â rhaglen Wythnos ‘Pwy Ydan Ni’n Feddwl Ydan Ni?’ yn 2010.

Mae ‘Pwy Ydan Ni’n Feddwl Ydan Ni?’ yn rhan o strand Cyfathrebu, Cydweithrediad a Dinasyddiaeth Bydd Barod ac mae’n darparu cyngor a chymorth cwricwlwm sy’n helpu ysgolion i archwilio materion hunaniaeth, amrywiaeth a dinasyddiaeth gyda’u myfyrwyr ar raddfa lleol a chenedlaethol trwy gyfrwng pedair thema allweddol:

  • Ysgol a chymuned
  • Perthnasau, perthyn a ffydd
  • Hanes a setliad
  • Prydeindod, hunaniaeth/gwerthoedd cenedlaethol a Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012

Mae’r rhaglen yn diweddu gydag wythnos genedlaethol o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n digwydd eleni rhwng 21 a 27 Mehefin 2010.

Yn ystod 2009, dyfarnodd y prosiect 10 o grantiau i ysgolion a gynhelir ar hyd a lled Lloegr i ddatblygu gweithgareddau, ac unwaith eto cynigir y cyfle i ysgolion yn Lloegr ymgeisio am grantiau i ddatblygu gweithgareddau sy’n gysylltiedig â‘r wythnos neilltuol ym Mehefin 2010.

Ond, ychydig wythnosau yn unig sydd gennych i gyflwyno’ch cais! Y terfyn amser ar gyfer ymgeisio am grant yw 12 Chwefror.

Mwy o wybodaeth yn www.wdwtwa.org.uk neu e-bostiwch y swyddog prosiect yn wdwtwa@rgs.org.