• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Newyddion

Ysgolion rhwydwaith Bydd Barod yn cyfarfod â'r Archesgob Desmond Tutu!
4 Chw 2010

Ymwelodd Yr Archesgob Desmond Tutu â‘r Parc Olympaidd heddiw a chyfarfod hefyd â myfyrwyr o ysgolion a cholegau yn y pum Bwrdeistref Cynnal sy’n aelodau o rwydwaith Bydd Barod.

Siaradodd â hwy am bwysigrwydd cynhwysiad ac undod a’i gred bod cynnal y Gemau yn Nwyrain Llundain yn ffordd wych o ddod â chymuned amrywiol at ei gilydd.

Dywedodd Frankie o Marion Richardson Primary School, Tower Hamlets: “Heddiw cyfarfyddais â dyn arbennig iawn o’r enw Yr Archesgob Desmond Tutu. Cyn y cyfarfod roeddwn yn meddwl y byddai’n ddyn difrifol a sych ond roedd i’r gwrthwyneb. Roedd yn llawn hiwmor ac egni am ddyn 78 oed! Llwyddodd Yr Archesgob Tutu i wneud yr haul wenu ar ddiwrnod glawog. Gwnaeth fi a phawb o’i gwmpas yn hapus. Eglurodd i ni bod chwaraeon yn dod â ni at ein gilydd, ac nid oes ots os ydych yn ddu, gwyn, tew, tenau, bach neu’n dal. Rydym i gyd yn wahanol ac mae hynny’n beth da hefyd!”

Dywedodd Kaycee o Leyton Orient Playing for Success Centre, Newham: “Roedd heddiw yn ddiwrnod gwych a roddodd i mi’r cyfle i gyfarfod â‘r Archesgob Desmond Tutu am y tro cyntaf a’r tro olaf mae’n debyg. Mwynheais wrando ar yr hyn oedd gan yr Archesgob i’w ddweud a chefais fy ysbrydoli gan ei neges. Am ddyn o’i oed sydd wedi mynd drwy gymaint, roedd yn fywiog, egnïol ac yn barod i rannu ei brofiadau. Un peth yw gweld dyn arbennig fel hyn ar y teledu ond roedd ei glywed yn siarad yn y cnawd yn brofiad gwych i mi.!