• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Newyddion

Y degfed coleg AB yn ymuno â rhwydwaith Bydd Barod!
5 Chw 2010

Carmel College yw’r degfed coleg AB i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod!

Fel cydnabyddiaeth o’u hymrwymiad i’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd, rhoddwyd iddynt eu plac a’u tystysgrif rhwydwaith Bydd Barod gan Craig Heap, Olympiad ac enillydd Medal Aur Gemau’r Gymanwlad, a siaradodd gyda’r myfyrwyr am ei lwyddiannau yn ystod ei yrfa. Dywedodd Craig: ‘Mae myfyrwyr yn Carmel College yn enghreifftiau rhagorol o sut mae Llundain 2012 yn helpu i sbarduno dychymyg pobl ifanc ac yn eu hysbrydoli i gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth. Rwy’n gobeithio y byddant yn cymell mwy o bobl ifanc i ymuno â nhw ar y daith.’

Dros fisoedd lawer mae Carmel wedi bod yn ymdrin â Gwerthoedd Rhwydwaith Bydd Barod trwy’r gwaith a arweiniwyd gan Jamie Hampson, Cydlynydd Chwaraeon Addysg Bellach Carmel: “Mae Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 yn gyfle unwaith mewn oes i’n myfyrwyr a’n staff. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ni wneud cysylltiadau ag ysgolion a cholegau eraill yn y DU ac o gwmpas y byd er mwyn hyrwyddo’r ffordd yr ydym yn paratoi ar gyfer y Gemau yn ein coleg a’n gwlad.”

O nawr tan ddechrau’r Gemau, mae Carmel yn bwriadu cynnig llawer o wahanol weithgareddau trwy eu rhaglen gyfoethogi a thrwy’r cwricwlwm. Y cynlluniau yw: yr Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB flynyddol; cynnal diwrnod chwaraeon gyda’r Gemau’n thema; ystod ehangach o ddewisiadau chwaraeon i ddenu mwy o fyfyrwyr i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol bob wythnos; a datblygu ymhellach y cysylltiadau cryf sydd gan y coleg eisoes gydag ysgolion tramor trwy’r rhaglen gyfnewid dramor. Hefyd, bydd Arweinwyr Chwaraeon myfyrwyr Carmel yn gweithio gydag ysgolion cynradd lleol er mwyn darparu Gweithdai Olympaidd thematig i annog brwdfrydedd plant ieuengach tuag at y Gemau.

Dywedodd y Pennaeth, Rob Peacock: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o rwydwaith Bydd Barod. Y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd yw’r gwerthoedd yr adeiladwyd Carmel College arnynt, yr hyn y mae’n enw da yn seiliedig arnynt. Bydd a cyfleoedd a ddarperir gan y rhwydwaith yn helpu i ysbrydoli a chymell ein myfyrwyr i ymestyn allan i’r byd a theimlo’n rhan o Gemau 2012. Rwy’n hyderus y byddant yn ateb yr her.”